TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-



[ENGLISH]


[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

2 Mehefin 1998

Mae’r Pethau Bychain Mor Werthfawr Wrth I’r Grantiau Gyrraedd £2m

Ar 2 Mehefin cyhoeddodd Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol y Grantiau bychain diweddaraf ar gyfer Cymru sy’n dwyn cyfanswm yr arian a ddyfarnwyd i grwpiau gwirfoddol bychain yng Nghymru i ragor na £2m. Mae cyfanswm o £2,053,447 bellach wedi ei ddyfarnu i 867 o grwpiau o dan y cynllun ‘Grantiau bychain’ sy’n caniatáu i grwpiau gwirfoddol gydag incwm blynyddol o lai nai £10,000 i wneud cais am grantiau o £500 hyd at £5,000.

Ar draws Cymru, mae 54 o grwpiau wedi derbyn cyfanswm o £143,665 yn y cylch diweddaraf o Grantiau bychain. Mae y grwpiau llwyddiannus yn cynnwys Fforwm Chwarae Cymru Gyfan a dderbyniodd £3,130 ar gyfer gwersyll haf torfol ar gyfer aelodau a’r plant a’r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy; Radio Ysbyty Gwynedd a dderbyniodd £3,200 i brynu offer i recordio a darlledu digwyddiadau allanol; a’r Get Going Gang o’r Trallwng a dderbyniodd £3,300 ar gyfer cynllun chwarae diogel yn ystod gwyliau’r haf.

"Mae hyn yn garreg filltir o bwys i’r Bwrdd Elusennau yng Nghymru", meddai’r Cadeirydd, Tom Jones, "Mae ein profiad ni o’r grantiau bychain yn adlewyrchu profiad llawer o grwpiau gwirfoddol bychain ar draws Cymru. Mae y grwpiau hyn yn gweld yr angen sydd yn eu cymunedau ac yn canfod prosiectau a fydd o gymorth i ateb yr anghenion hynny. Ar lefel strategol ymgynghorodd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru â’r sector gwirfoddol a chanfod yr angen am raglen grantiau cyflym i ymateb i brosiectau gan grwpiau llai. Felly, ochr yn ochr â’n rhaglenni grantiau mwy sylweddol, fe wnaethom gyflwyno y rhaglen Grantiau bychain ym Mehefin 1996. Ddwy flynedd yn ddiweddarach yr ydym yn falch o gael cyhoeddi bod mwy na £2m wedi ei ddyfarnu o dan y rhaglen i 867 o grwpiau yng Nghymru. Ar ben hynny, o ganlyniad i’r ymateb rhagorol ac ansawdd y prosiectau llwyddiannus, bydd y rhaglen Grantiau bychain a arbrofwyd fel cynllun peilot yng Nghymru, bellach yn cael ei gyflwyno yng ngweddill y DG."

Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, Roy Norris, "Yn y pen draw ni ellir mesur arwyddocâd y rhaglen hon ond drwy gyfrwng y budd a ddeilliodd i gymunedau a’r difreintiedig. Mae symlrwydd y ffurflen gais wedi cynorthwyo amrywiaeth eang o brosiectau i lwyddo. Mae llawer wedi ymateb i anghenion cymunedol cyffredin fel offer a gweithgareddau ar gyfer grwpiau meithrin, grwpiau ieuenctid, pobl anabl neu grwpiau henoed. Mae eraill wedi canolbwyntio ar wella adnoddau mewn canolfannau cymunedol a gwella mynediad. Mae nifer o grwpiau wedi bachu ar y cyfle i feistroli y dechnoleg newydd, er enghraifft er mwyn cynhyrchu newyddlenni neu wella y weinyddiaeth a chynnal bas-data. Mae prosiectau eraill wedi bod yn unigryw, fel prosiect benthyg celfi gardd neu gynhyrchu fideo ymwybyddiaeth. A dweud y gwir mae ein hymchwil yn dangos bod y rhaglen wedi bod mor llwyddiannus nes bod cefnogaeth o fewn y sector gwirfoddol bellach i raglen Grantiau bychain estynedig - galwad sydd ar hyn o bryd yn cael ei ystyried a’i ateb."

Er Hydref 1995, mae Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol, trwy gyfrwng ei wahanol raglenni grantiau wedi dyfarnu dros £47 miliwn i 1,482 o grwpiau yng Nghymru.

Dylai grwpiau sydd yn dymuno cael rhagor o wybodaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg gysylltu â’r llinell ymholiadau ar y rhif ffôn: 0345 273273.