[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
7 Gorffennaf 1998 1,500 O Grantiau’r Bwrdd Elusennau Wedi Eu Dosrannu Yng NghymruCyhoeddodd Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol enwau’r rhai diweddaraf i dderbyn grant o dan y cynllun Grantiau bychain sydd yn gwneud cyfanswm nifer y grantiau a ddyfarnwyd yng Nghymru yn 1,500. Dywedodd Tom Jones, Cadeirydd Cymru, "Mae’r swm enfawr hwn o grantiau, sydd werth rhagor na £48 miliwn, yn rhoi cyfle i ni ystyried y budd y mae cymunedau ledled Cymru wedi ei gael yn sgîl y grantiau hyn. Yn fwy felly gan fod llawer o’r prosiectau mawr tair blynedd wedi eu sefydlu’n llwyddiannus bellach fel prosiectau ymarferol oherwydd y gefnogaeth yn y cymunedau a’r cyfryngau. Nid ydym wedi anghofio, fodd bynnag, fod y 1,500 o grantiau yn cynrychioli’r ceisiadau llwyddiannus a bod llawer mwy o ymgeiswyr wedi bod un ai’n aflwyddiannus neu heb fod â’r hyder i wneud cais, tra nad yw eraill efallai yn ymwybodol o’r grantiau sydd ar gael iddynt. Mae mynd heibio’r garreg filltir hon felly yn ein hannog i sicrhau fod pawb sydd mewn angen yn ymwybodol o’r cyfleon sy’n cael eu cynnig gan y Bwrdd Elusennau a bod grwpiau gwirfoddol yn cael eu hannog i roi cynnig arni dro ar ôl tro. "Dylai grwpiau sydd yn chwilio am arian ar gyfer prosiectau sylweddol, yn amrywio o fuddsoddi cyfalaf, gan gynnwys mynediad i’r anabl, i hybu gwirfoddoli, wneud cais am grant Gweithredu cymunedol, tra bod y cynllun Grantiau bychain wedi’i anelu at grwpiau sy’n chwilio am symiau llai o arian a hynny ar fyrder." Rhoddwyd £45,095 i gyfanswm o 17 o grwpiau yn y rownd ddiweddaraf o Grantiau bychain a ddyfarnwyd yn gynharach na’r bwriad gwreiddiol er mwyn sicrhau fod arian yn cael ei ryddhau mewn pryd ar gyfer prosiectau’r haf. Roedd nifer o’r prosiectau yn ymwneud â gweithgareddau haf i’r ifanc megis Cynllun Chwarae Gwyliau Llanwrtyd a dderbyniodd £625 a Grp Datblygu Ieuenctid yr Wyddgrug a’r Cylch a dderbyniodd £550. Bydd nifer o grwpiau i’r henoed hefyd yn cael budd o arian i gefnogi gweithgareddau’r haf a theithiau i grwpiau gan gynnwys Grp Ymddeol yr Henoed yng Nghaerffili a dderbyniodd £1,000 a Phensiynwyr Llanmorlais a dderbyniodd £4,400. |