TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-






[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

9 Chwefror 1998

Y Bwrdd Elusennau'n Landio Rhaglen Grantiau Ymchwil Iechyd A Chymdeithasol Newydd

Heddiw lansiodd Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol ei raglen grantiau newydd a elwir Ymchwil iechyd a chymdeithasol. Fe’i anelir at elusennau a mudiadau gwirfoddol sydd yn chwilio am grantiau ar gyfer prosiectau ymchwil meddygol ac ymchwil cymdeithasol mewn iechyd. Gellir ymgymryd â’r ymchwil mewn adrannau prifysgol a sefydliadau ymchwil mewn cydweithrediad ag elusen neu fudiad gwirfoddol.

Mae taflen, a gyhoeddir heddiw, yn egluro pwy a gaiff wneud cais a’r mathau o brosiectau a gaiff eu cefnogi.

Bydd y linell gais ar agor ar 27 Ebrill tan 9 Hydref 1998. Mae’n rhaid i geisiadau sydd wedi eu cwblhau gael eu derbyn, ynghyd â chynnig ymchwil llawn, erbyn 30 Hydref 1998. Cyhoeddir y grantiau yng ngwanwyn 1999.

Dywedodd Gerald Oppenheim, Cyfarwyddwr y DG a Chynllunio Corfforaethol: "Dyma’r ail raglen grantiau ar gyfer ymchwil meddygol a chymdeithasol. Dyfarnodd y Bwrdd Elusennau 56 o grantiau gwerth £8.6 miliwn i brosiectau ymchwil meddygol a chymdeithasol yn Rhagfyr 1996. Roedd y rhain yn cynnwys ymchwil i ystod eang o glefydau a chyflyrau cymdeithasol ym meysydd iechyd, anabledd a gofal.

"Roedd y rhai a dderbyniodd grantiau yn cynnwys Sefydliad yr Ysgyfaint Prydain, Age Concern, yr Ymgyrch Ymchwil Cancr, y Sefydliad Clefyd yr Iau mewn Plant, y Gronfa Ymchwil Cancr Ymerodrol, y Gronfa Ymchwil y Galon Cenedlaethol a Chymdeithas Diabetig Prydain.

"Mae’r Bwrdd wedi ymrwymo i barhau i ariannu’r gwaith hollbwysig ac allweddol hwn sydd yn cael ei wneud gan y sector wirfoddol. Yr ydym yn edrych ymlaen at dderbyn rhagor o geisiadau o ansawdd uchel ar gyfer prosiectau ymchwil a fydd yn cael effaith go iawn ar fywydau pobl at y dyfodol."