[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
3 Chwefror 1998 Y Bwrdd Elusennau Yn Cyhoeddi Dyfarnu 87 O Grantiau Yng NghymruAr hyd a lled Cymru mae 87 o fudiadau gwirfoddol ac elusennau wedi derbyn grantiau hyd at gyfanswm o £201,164 yn y cylch diweddaraf o Grantiau Bychain a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Elusennau. Gwnaethpwyd y cyhoeddiad gan Gadeirydd Pwyllgor Cymru, Tom Jones mewn cynhadledd i’r wasg ym Mhontypwl heddiw. "Mae’r cynllun Grantiau Bychain yn rhaglen gyfredol i ddarparu grantiau i fudiadau sydd angen arian ar unwaith er mwyn ariannu prosiectau penodol. Mae amrywiaeth y grwpiau a dderbyniodd grantiau heddiw yn adlewyrchu yr ystod eang o geisiadau am Grantiau Bychain," meddai Tom Jones. Derbyniodd y Grwp Anhwylderau Bwyta o Bontypwl £3,880 tuag at hyrwyddo ymwybyddiaeth a hyfforddiant; yn sir y Fflint derbyniodd Clwb Garddwyr Amatur Holway £584 tuag at sefydlu cynllun benthyca offer garddio at ddefnydd yr henoed a thrigolion difreintiedig; a derbyniodd y grwp Cymru gyfan, Child Safe Wales £1,600 tuag at gynnal seminar a digwyddiadau hyrwyddo ar hyd a lled Cymru. Derbyniodd grwpiau’r henoed, grwpiau meithrin a neuaddau cymuned ar hyd a lled Cymru grantiau hefyd yn amrywio o £500 i £5,000 er mwyn hyrwyddo eu gwaith yn eu cymunedau. Ychwanegodd Tom Jones, "Mae grwpiau o bob rhan o Gymru yn derbyn y grantiau hyn heddiw ac mae hwn yn gyfle i oedi a llongyfarch pawb o’r rhai sy’n gweithio yn galed iawn ar ran eu gwahanol achosion. Yn y sector gwirfoddol mae amrywiaeth mawr, nid yn unig o ran natur y gwaith sy’n cael ei gyflawni ond hefyd o ran maint a threfniadaeth yr elusennau. Mae’r cyhoedd yng Nghymru yn ymwybodol iawn o gryfder y sector gwirfoddol yn sylfaenol. Mae eu llwyddiant yn deyrnged i waith caled y gwirfoddolwyr a haelioni a chefnogaeth eu cymunedau lleol. Trwy gyfrwng y cynllun Grantiau Bychain nod y Bwrdd Elusennau yw cynorthwyo a chyflymu gallu y grwpiau hyn i ddatblygu trwy gynnig arian tuag at elfennau fel offer, hyfforddiant, cyhoeddusrwydd, astudiaethau dichonolrwydd, gweithgareddau, treuliau gwirfoddolwyr, trwsio adeiladau, addysg a seminarau ac ati. Nid maint yr arian ond yn hytrach yr hyn y gall grwp ei gyflawni sydd yn arwyddocaol gyda Grant Bach. Mae’n galondid mawr i mi bod y Grantiau Bychain gyda’i gilydd yn galluogi sector wirfoddol gryfach a mwy hyderus i ddatblygu ar lefel leol yng Nghymru." Dywedodd Cyfarwyddwr y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, Roy Norris, "Yng Nghymru y sefydlwyd y cynllun peilot ar gyfer Grantiau Bychain gyntaf ac mae wedi talu ar ei ganfed i’r rhai hynny a dderbyniodd y sialens a chyflwyno cais. Hyd yma mae 745 o grwpiau wedi derbyn gwerth £1.7 miliwn o Grantiau Bychain yng Nghymru. Gellir egluro poblogrwydd y grantiau hyn yng ngoleuni y ffaith bod yr arian yn cael ei ddosbarthu i brosiectau lleol penodol mewn trefn ymgeisio fer ac uniongyrchol. Mae y canlyniadau presennol yn adlewyrchu ansawdd y ceisiadau gydag un o bob dau yn llwyddo. Mae yna gyfle arall bob amser i’r rhai nad oeddent yn llwyddiannus i gyflwyno cais y tro yma." |