TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-



[ENGLISH]


[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

23 Rhagfyr 1998

Blwyddyn Newydd Dda ... i rai

Mae tlodi yn weladwy iawn yn ystod tymor y Nadolig ond mae camau i dargedu gwreiddyn y broblem yn destun drwy gydol y flwyddyn. Yn ei neges Blwyddyn Newydd, mae Tom Jones, Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, yn annog pobl o bob cornel o Gymru i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd ariannu a gynigir gan y Bwrdd Elusennau

.

"Mae esiamplau o dlodi a difreintiedd sydd yn cael eu hamlygu gan y cyfryngau dros yr yl ac yn ystod tywydd garw y Flwyddyn Newydd, yn chwarae rhan allweddol mewn codi ymwybyddiaeth. Rwyf yn annog y cyhoedd nid i ymateb yn negyddol ond i gydnabod bod tlodi yn bodoli ac i gymeryd camau positif i gyfeirio at wreiddyn y broblem. Drwy gydol y flwyddyn mae’r sector gwirfoddol yn gweithio i daclo materion cymdeithasol sy’n codi o incwm isel ac mae’r grwpiau gwirfoddol hyn yn haeddu cymorth. O’r gaeaf yma ymlaen, mae’r Bwrdd Elusennau yn lansio rhaglen newydd a fydd yn darparu arian wedi ei dargedu tuag at tlodi a difreintiedd. Croesewir ceisiadau gan unrhyw elusen neu grp gwirfoddol sydd yn cynllunio prosiectau a fydd yn lleddfu tlodi neu gyfeirio at wreiddyn y broblem. Yn sgil hyn, pan welwch drasiedi tlodi o’ch blaen ac yn y cyfryngau, rwyf yn apelio i chi gysidro y rhan y gallwch chi ei gymeryd i sicrhau bod llai o bobl yn dioddef yr un helynt ‘Dolig nesaf. Cysylltwch a’r Bwrdd Elusennau nawr i ddarganfod os y byddai grant ‘Tlodi a difreintiedd’ yn gwella safon byw yn eich cymuned mewn pryd i ddathlu’r Mileniwm newydd."

Cyflwynir y prif raglen ‘Tlodi a difreintiedd’ er mwyn cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i’r difreintiedig heb rhoi eu hanghenion hwy mewn cystadleuaeth ag anghenion cymunedol eraill yng Nghymru. Y prif raglen gyfochrog sydd ar gael i’r sector gwirfoddol ar hyn o bryd yw ‘Gweithredu cymunedol’ sydd, er ei gyflwyno yng Ngwanwyn 1998, wedi dosbarthu bron i £8 miliwn i 73 grp yng Nghymru.

Mae’r Bwrdd Elusennau wedi pasio carreg filltir bwysig yn ddiweddar, gan ddosbarthu dros £50 miliwn o dan y prif raglen grantiau. Erbyn diwedd 1998, y cyfanswm a ddosbarthwyd yng Nghymru, gan gynnwys ‘Grantiau bychain’ yw £55 miliwn.

Ychwanegodd Tom Jones, "Mae’r £55 miliwn yr ydym wedi ei ddosbarthu yng Nghymru wedi mynd yn bell tuag at gryfhau ac annog y sector gwirfoddol. Mewn cyfnewid, mae’r Bwrdd Elusennau wedi derbyn cyngor gwerthfawr gan y sector gwirfoddol ac mewn ymateb i’r cyngor hwn ac ein ymchwil polisi, penderfynom sefydlu cronfa yn arbennig i daclo tlodi a difreintiedd. Mae hi nawr i fyny i’r sector gwirfoddol i geisio am arian ar gyfer prosiectau effeithiol a fydd o fantais i’r sawl sydd ar incwm isel."

Mae incwm isel a difreintiedd yn effeithio:

  • unigolion fel y digartref
  • cymunedau fel y rhai sydd â lefel diweithdra uchel, ac
  • sectorau cyflawn o’n cymunedau fel yr henoed.

Mae prosiectau sydd yn lliniaru tlodi yn cynnwys: gwasanaethau sydd yn darparu anghenion crai fel bwyd neu ddodrefn. Mae prosiectau sydd yn targedu gwreiddyn problem tlodi yn cynnwys mentrau sydd yn delio a chyrhaeddiad addysgol gwael neu ddiffyg mynediad i hyfforddiant a gofal plant.

Dylai grwpiau sy’n dymuno cael ffurflenni cais neu wybodaeth bellach alw: 0345 273273.