TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-



[ENGLISH]


[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

16 Rhagfyr 1998

Grp Mabwysiadu yn mynd â’r Bwrdd Elusennau yng Nghymru dros y marc £50 miliwn

Mae heddiw yn cynrychioli carreg filltir arbennig i Fwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yng Nghymru gan iddynt gyhoeddi ei bod wedi pasio’r marc £50 miliwn o dan ei rhaglen prif grantiau. Mae hyn yn cynrychioli £18 y pen o boblogaeth Cymru er cychwyn y prif grantiau yn 1995.

I ddathlu’r achlysur cafwyd cyflwyniad arbennig ar gyfer grp a lwyddodd gyda’i grant i fynd â’r Bwrdd Elusennau dros y marc £50 miliwn. Derbyniodd Cymorth ar ôl Mabwysiadu Cymru £168,263 ar gyfer prosiect a fydd yn darparu gwasanaeth cefnogaeth ar gyfer unigolion sydd yn cael eu heffeithio gan fabwysiadu.

Dywedodd Tom Jones, Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, "Ymysg y grantiau a ddyfarnwyd yn ddiweddar o dan raglen Gweithredu cymunedol, mae hon yn sefyll allan i ni, gan ei fod yn gofnod bod y Bwrdd Elusennau yng Nghymru wedi pasio’r marc £50 miliwn. Mae ein llwyddiant hyd yn hyn yn deyrnged i’r 20 aelod o staff, yn swyddfa’r Bwrdd Elusennau yn y Drenewydd, sydd wedi llwyddo i feithrin perthynas gwaith glos gyda’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

"Mae’r prosiect ei hun yn adlewyrchu yr ystod eang o achosion y gellir cyfeirio atynt o dan raglen Gweithredu cymunedol. Mae mabwysiadu yn achos cymunedol - yn y gorffennol er enghraifft, o ganlyniad i werthoedd cymuned byddai mamau sengl yn rhoi plentyn i ffwrdd i’w fabwysiadu. Nawr, efallai, mae’r plant, mamau neu teuluoedd mabwysiadol yn ymdrin â sefyllfaoedd, er yn unigryw i’r unigolyn, a ellir eu datrys gyda Cymorth ar ôl Mabwysiadu Cymru.

Dywedodd Jenny Clements, Cyd-drefnydd Cymorth ar ôl Mabwysiadu Cymru, "Ar adeg o’r flwyddyn pan fo teulu yn bwysig iawn, mae’n bleser sylweddoli y gallwn, drwy gymorth y grant yma, ddatrys llawer iawn mwy o achosion a hefyd dod â thawelwch meddwl i lawer mwy o deuluoedd yng Nghymru erbyn yr adeg hyn y flwyddyn nesaf. Mae mabwysiadu yn achos sydd yn parhau ar hyd oes rhywun ac mae hefyd yn effeithio teuluoedd ar y ddwy ochr. Rydym yma heddiw i ymdrin yn sensitif a gofynion mamau, y plant a’r teuluoedd mabwysiadu drwy gynnal llinell gymorth, cwnsela, cyfarfodydd grp a gwasanaeth gwybodaeth. Rydym yn croesawu y cyfle yma i ehangu ein gwasanaeth ym mhob rhan o Gymru a hefyd yn falch iawn ein bod yn ymddangos mor flaengar ymysg y cannoedd o brosiectau a ariannir gan y Bwrdd Elusennau yng Nghymru."

Dywedodd Roy Norris, Cyfarwyddwr y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, "Drwy gynnal ein rhaglenni grantiau, mae’r Bwrdd Elusennau yn anelu tuag at gynorthwyo’r rhai sydd dan anfantais gan gynnwys anfantais corfforol a materol, neu fel yn yr achos hwn, yr anfantais o unigedd. Mae ein rhaglenni grantiau cyfredol yn cynnwys ‘Gweithredu cymunedol’ sydd â perthnasedd eang a ‘Tlodi a difreintedd’, sydd yn anelu tuag at leddfu ac ateb achosion gwreiddiol incwm isel. Er nad oes dyddiad cau ar gyfer y rhaglenni, rydym yn annog grwpiau sydd yn gobeithio cynnal prosiectau erbyn haf 1999 i ddychwelyd ceisiadau erbyn diwedd mis Ionawr."

Dylai grwpiau sy’n dymuno cael ffurflenni cais neu wybodaeth bellach alw: 0345 273273.