TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-



[ENGLISH]


[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

4 Tachwedd 1998

Ffasnwch eich beltiau meddai’r Bwrdd Elusennau

Mae Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol wedi lansio cyfleoedd ariannu newydd ar gyfer grwpiau gwirfoddol sy’n ei chael hi’n anodd i gyfarfod gofynion rheolau diogelwch ar gyfer minibysiau. Mae profion MOT nawr yn cynnwys archwiliad o bresenoldeb gwregysau a chryfder seti mewn minibysiau gyda’r gost o addasu un cerbyd yn ymestyn o tua £500 i £1,000. Mae hwn yn gost sylweddol ar gyfer grwpiau bychain yn ogystal â grwpiau mwy sydd yn rhedeg sawl minibws.

Eglurodd Tom Jones, Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, "Rydym yn croesawu rheolau llym ar gyfer minibysiau sydd â’r potensial i achub bywydau yn y pen draw, ond bydd y rheolau hyn yn faich ariannol i rai grwpiau wrth iddynt boeni am gostau addasu. O ganlyniad i hyn mae’r Bwrdd Elusennau yn cyflwyno cynllun unigryw a fydd yn sicrhau bod grwpiau gwirfoddol ac elusengar i gyd yn addasu eu minibysiau yn unol a’r rheolau diogelwch, heb iddo fod yn straen ar eu hadnoddau."

Disgrifiwyd y cynllun fel un "dychmygus sydd a galw mawr amdano" gan Glenda Jackson, Gweinidog Trafnidiaeth, a ddywedodd, "Rwyf yn llongyfarch y Bwrdd Elusennau ar gynllunio a darparu’r cynllun gwerthfawr yma, ac yn gobeithio bydd grwpiau cymwys yn gwneud cais am arian."

Eglurodd Roy Norris, Cyfarwyddwr y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, "Gellir gwneud ceisiadau gan unrhyw grp gwirfoddol neu elusengar waeth be fo maint neu incwm. Mae croeso hefyd i grwpiau sydd wrthi’n paratoi cais arall, neu yn derbyn arian gan y Bwrdd Elusennau i gyflwyno cais. Ar ben hynny, nid yw ceisiadau wedi’u cyfyngu i un pob grp sydd yn golygu y caiff grwpiau sydd yn berchen dau neu dri fws sicrhau bod pob minibws yn cael ei addasu."

Dylai grwpiau sy’n dymuno cael ffurflenni cais neu wybodaeth bellach alw 0345 273273.