[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
27 Awst 1998 Y Bwrdd Elusennau yn dyfarnu dros £2.3 miliwn i Gymunedau yng NghymruHeddiw cyhoeddodd Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol ddyfarniad o £2,368,999 ar gyfer 22 o grwpiau yng Nghymru o dan ei raglen grantiau Gweithredu cymunedol. Mae grwpiau sy’n gweithio trwy Gymru gyfan yn ogystal â grwpiau rhanbarthol a lleol yn amlwg yn y dyfarniadau heddiw sydd yn nodi y cylch cyntaf o ddyfarniadau er lansio’r grantiau Gweithredu cymunedol. Mae’r grwpiau Cymru gyfan yn cynnwys y mudiad Merched Y Wawr sydd yn derbyn £207,000 i ddarparu pencadlys cenedlaethol amlbwrpas yn Aberystwyth, a Busnes yn y Gymuned sydd yn derbyn £171,178 i ddatblygu gwaith y Grp Cwmnïau Proffesiynol er mwyn darparu arbenigedd proffesiynol yn rhad ac am ddim yn y gymuned ym maes cyllid, y Gyfraith a marchnata. Mae’r dyfarniad mwyaf o £341,520 yn mynd i Beth Shan (Hebraeg am ‘T Diogelwch’) i ddarparu ‘t sych’ yn Aberystwyth fel man diogel er mwyn i rai sy’n gaeth i gyffuriau ac alcohol ac sydd wedi bod drwy raglen ddadwenwyno i adfer eu hiechyd. Dywedodd Keith Haliwell, Tsar Cyffuriau y Llywodraeth, a oedd yn westai anrhydeddus yn y cyhoeddiad, "Mae cyffuriau yn effeithio arnom i gyd - trwy gostau i iechyd, trwy droseddau, a thrwy eu heffaith niweidiol ar deuluoedd a chymunedau. Nid ydynt wedi’i cyfyngu i un rhan o gymdeithas nac i unrhyw ardaloedd ddaearyddol. "Fy rôl i fel Cyd-gysylltydd Gwrth-Gyffuriau’r DG yw cyd-gysylltu, yn genedlaethol, ymdrech y rhai hynny sy’n ymwneud â gwaith cyffuriau, o adrannau’r Llywodraeth i asiantaethau cyffuriau lleol. Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Llywodraeth ei Bapur Gwyn gwrth-gyffuriau a oedd yn nodi ein hamcanion tymor hir am y deng mlynedd nesaf. Mae’r amcanion yn uchelgeisiol ond rwy’n credu fod modd i ni eu cyrraedd. "Mae’r ateb i’w gael mewn gweithredu cymunedol, mewn cymunedau yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth er mwyn datrys problem cyffuriau. Pleser o’r mwyaf gennyf yw gweld fod y ganolfan hyfforddi yma yn nhref Aberystwyth wedi llwyddo yn eu cais am grant gan y Bwrdd Elusennau ar gyfer gweithredu cymunedol ac rwy’n mawr obeithio y bydd grwpiau gwirfoddol ac elusennol eraill sy’n ymwneud â gwaith gwrth-gyffuriau ar hyd a lled y wlad yn cyflwyno ceisiadau i’r Bwrdd Elusennau yn y dyfodol." Ymhlith eraill a dderbyniodd grantiau heddiw roedd Cynllun Cynorthwywyr Gofal Crossroads Abertawe Castell Nedd Port Talbot, a dderbyniodd £195,316 i gyflogi deg aelod o staff rhan amser a threuliau eraill, a Phwyllgor Neuadd Bentref Llandyfaelog, a dderbyniodd £68,455 tuag at atgyweirio’r neuadd. Dywedodd Tom Jones, Cadeirydd Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yng Nghymru, "Yr ydym yn edrych ymlaen i weld y prosiectau a dderbyniodd grantiau heddiw yn dod â budd i gymunedau ym mhob rhan o Gymru. Yn ogystal â rhai sy’n ceisio rhyddhad rhag caethiwed cyffuriau, mae’r rhai a fydd yn elwa o’r prosiectau hyn yn cynnwys plant, pobl ifanc, rhai dan anfantais gorfforol neu feddyliol, a gofalwyr. Rwyf yn gobeithio y bydd llwyddiant y grwpiau a dderbyniodd grantiau heddiw yn ysgogi eraill sydd yn ymdrechu i weddnewid eu cymunedau i ddod at y Bwrdd Elusennau am gymorth i wireddu yr amcanion hynny." Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cymru, Roy Norris, "Mae Gweithredu cymunedol yn rhaglen barhaol ac nid oes unrhyw ddyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Gorau po gyntaf y cyflwynir cais fodd bynnag, gan y medrwn ddyfarnu’r grant yn gynt. Dylai graddfa lwyddiant o ddau o bob tri yn y cylch hwn fod yn ddigon o ysgogiad i ragor o grwpiau i wneud cais. Mae llinell ymholiadau gan y Bwrdd Elusennau ac rydym hefyd yn cynnal seminarau ym mhob rhan o Gymru i gynorthwyo grwpiau i wneud cais. Mae ein gwasanaeth gwybodaeth yn medru ymateb i bob math o ymholiadau gan y rhai sy’n ystyried gwneud cais am y tro cyntaf, neu gan rai a fu’n aflwyddiannus yn y gorffennol. Mae’r rhaglenni grantiau cyfredol eraill yn cynnwys y Cynllun Grantiau bychain ac Ymchwil iechyd a chymdeithasol. Gellir cael gwybodaeth a ffurflenni cais ar gyfer pob un o gynlluniau grantiau y Bwrdd trwy alw 0345 273273. |