[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
17 Awst 1998 Y Gwir Anrh. Chris Smith yn ailbenodi Tom JonesMae yr Ysgrifennydd Diwylliant, Chris Smith wedi cyhoeddi ailbenodi Tom Jones yn aelod o Fwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol hyd 25 Gorffennaf 2000. Mae hefyd wedi cael ei ail-ethol yn Gadeirydd Pwyllgor Cymru gan y Bwrdd yng Nghymru. Mae Tom Jones, OBE, yn ffermwr yn Nolanog ger y Trallwng ac yn aelod o Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Phwyllgor Monitro 5B Ewrop. Mae yn gyn gyfarwyddwr y Bwrdd Hyfforddi Amaethyddol, yn gyn lywydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ac yn gyn aelod awdurdod darlledu S4C. Yn 48 mlwydd oed, mae’n briod â meddyg teulu ac mae ganddo dri o blant. Mae hefyd yn awdur dau lyfr, ‘Dyddiadur Ffarmwr’ a ‘Brain yn y Brwyn’. Yn ystod cyn-gadeiryddiaeth Tom Jones, dosbarthodd y Bwrdd Elusennau 1,500 o grantiau yng Nghymru hyd at gyfanswm o £48 miliwn. Mae’r dyfarniadau hyn yn cynnwys y Grantiau bychain a gafodd eu cynnal fel cynllun peilot yng Nghymru ac sydd â’r nod o gyrraedd cymunedau ar draws Cymru gyda grantiau o £500 i £5,000. Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot, o’r haf yma ymlaen, cafodd y cynllun ei ymestyn i bob rhan o’r DU. Dywedodd Tom Jones, "Rwyf yn falch iawn o gael fy ail-mhenodi mewn cyfnod mor gyffrous o ran y Dosbarthwyr Loteri yng Nghymru. Mae y Ddeddf Loteri a gafodd ei sefydlu yn ystod y mis diwethaf wedi rhoi cyfeiriad i ni ar gyfer cynllunio at y dyfodol a chydlynu’n ehangach ar bob lefel â’r holl Ddosbarthwyr Loteri eraill. Mae Bwrdd Elusennau Cymru wedi dosbarthu dros 1,500 o grantiau hyd yma ond yr ydym yn gwybod bod tua 23,000 o grwpiau gwirfoddol ac elusennol yng Nghymru, a bod gan y rhan fwyaf o’r rhain incwm o lai na £15,000 y flwyddyn. Nid oes unrhyw berygl o fod yn hunan fodlon felly, wrth i ni ymdrechu i gyrraedd llawer o grwpiau nad ydynt hyd yma wedi cael budd o arian y Bwrdd Elusennau. Mae’n briodol felly fy mod yn derbyn fy ail-benodiad i’r Bwrdd a’m hail-etholiad i’r Gadair fel sialens o’r newydd i sicrhau bod y Bwrdd Elusennau yn ymateb i anghenion y difreintiedig a chymunedau ym mhob rhan o Gymru." Mae Cyfarwyddwr Cymru, Roy Norris a’r tîm o 17 o staff llawn amser wedi eu lleoli yn swyddfa y Bwrdd Elusennau yn y Drenewydd. Tri aelod arall y Bwrdd yng Nghymru yw June Churchman, Elisabeth Watkins ac Alan Higgins. Dylai grwpiau gwirfoddol, elusennol a chymunedol sydd am gael ffurflen gais neu wybodaeth bellach am unrhyw un o raglenni grantiau’r Bwrdd Elusennau ffonio 0345 273273. |