TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-






[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

5 Awst 1998

Grantiau Bychain Mewydd Yn Cael Eu Lansio Gan Y Bwrdd Elusennau

Gall grwpiau gydag incwm blynyddol o hyd at £15,000 bellach wneud cais i Fwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol am Grant bychan. Ar ben hynny, bydd grwpiau gwirfoddol yn croesawu y newydd y bydd ganddynt gyfnod estynedig o hyd at chwe mis o heddiw ymlaen ar gyfer cynllunio a chwblhau eu prosiectau Grantiau bychain. Cafodd y datblygiad newydd hwn ei gyhoeddi heddiw gan Tom Jones, Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru, wrth iddo lansio y cynllun Grantiau bychain newydd yn y Pafiliwn Gweithredu Gwirfoddol, ‘Sbardun’, yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr.

Yn fyr, y diwygiadau newydd i’r Grantiau bychain yw:

  • Gall grwpiau gydag incwm blynyddol o hyd at £15,000 bellach wneud cais, lle mai £10,000 oedd y cyfyngiad yn y gorffennol
  • Caniateir chwe mis i grwpiau gwblhau y prosiectau a gyllidwyd, lle mai tri mis oedd y cyfyngiad amser yn y gorffennol
  • Ar yr un pryd gall grwpiau wneud cais am neu gael eu cyllido gan gynlluniau grant eraill o eiddo’r Bwrdd Elusennau

Dywedodd Tom Jones, "Yr oedd ein cynllun Grantiau bychain blaenorol, gyda chyfyngiad incwm blynyddol o £10,000, yn llwyddiant digamsyniol. Gall Cymru yn arbennig fod yn falch o’r ffaith mai yma y cynhaliwyd y cynllun Grantiau bychain peilot cyntaf erioed. O fewn dwy flynedd dosbarthwyd rhagor na £2 filiwn yng Nghymru, ac, o’r haf hwn ymlaen, bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno ar draws y DG.

"Poblogrwydd y Grantiau bychain a’r drefn hawdd-ymgeisio, a galwadau gan y sector gwirfoddol am gael ymestyn cymhwysedd sydd wedi arwain at gyflwyno y Grantiau bychain newydd diwygiedig. Trwy ein hymchwil polisi parhaol yr oeddem yn medru cadarnhau y gallai y Bwrdd Elusennau, trwy ymestyn cymhwysedd a threfn ymgeisio y rhaglen Grantiau bychain, gefnogi twf pellach o fewn y grwpiau gwirfoddol llai.

"Ar ran y Bwrdd Elusennau, felly, mae lansiad y cynllun Grantiau bychain newydd heddiw yn arwydd o’n partneriaeth lwyddiannus gyda’r sector gwirfoddol - partneriaeth sydd â’r nod o gefnogi y rhai mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas a gwella ansawdd bywyd yn y gymuned.

"Ar ran y darpar ymgeiswyr, mae’r lansiad hwn yn cynrychioli - yn syml iawn - cyfleon pellach i dalu am offer, hyfforddiant, cyflogau, gwaith atgyweirio, astudiaethau dichonolrwydd, digwyddiadau, defnyddiau cyhoeddusrwydd ac unrhyw beth arall sydd ei angen ar eu cynllun. Bydd grwpiau hefyd yn croesawu budd ychwanegol y cynllun Grantiau bychain newydd sydd yn caniatáu iddyn nhw gynllunio yn fanylach trwy gymryd chwe mis yn hytrach na’r tri mis blaenorol er mwyn gwario’r grant."

Ychwanegodd Roy Norris, Cyfarwyddwr BELG Cymru: "Yr ydym yn gyson yn pwysleisio bod y Bwrdd Elusennau yma i fod o gymorth ac nid i rwystro grwpiau rhag cael grant, boed yn Grant bychan, grant Gweithredu cymunedol neu arall. Yn yr un modd yr wyf yn gobeithio y bydd lansiad y Grantiau bychain newydd heddiw yn dangos unwaith eto, lle bo rheolau cymhwysedd yn y cwestiwn, nad ydym yma i reoli ond yn hytrach i ymateb i’r galw."

Cyhoeddir enwau y rhai a fydd yn derbyn arian o dan gylch diwethaf y Grantiau bychain o dan yr hen drefn ddiwedd Awst.

Am fanylion pellach neu ffurflenni cais ar gyfer y cylchoedd cyfredol - Grantiau bychain newydd neu Gweithredu cymunedol - cysyllter â 0345 273273.