TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-



[ENGLISH]


[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

17 Ebrill 1998

Y Bwrdd Elusennau'n Dyfarnu Grantiau I 68 O Grwpiau Yng Nghymru

Mae Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu cyfanswm o £196,641 o dan y cynllun ‘Grantiau bychain’ i 68 o grwpiau yng Nghymru. Mae y grantiau a gyhoeddwyd heddiw yn amrywio o £500 hyd at £5,000, ac, ar hyd a lled Cymru, mae grwpiau pensiynwyr a chymunedol amlwg ymhlith y rhai a elwodd.

Fe fydd grwpiau sydd yn cynorthwyo y difreintiedig hefyd yn derbyn arian, rhai fel Grp Clywed Lleisiau Penfro sydd yn ymwneud â iechyd meddwl, a fydd yn derbyn £2,461, Cymdeithas Hunan Gymorth y Di-waith Aberhonddu, a fydd yn derbyn £2,049, a Phwyllgor Rali y Byddar yng Nghymru a fydd yn derbyn £4,611 er mwyn talu am yl penwythnos Cymru gyfan ar gyfer y byddar a’u teuluoedd.

Dywedodd Tom Jones, Cadeirydd y Bwrdd yng Nghymru, "Rwyf yn falch iawn o gael cyhoeddi bod 68 o grwpiau eraill yng Nghymru wedi derbyn grantiau o dan y cynllun Grantiau bychain diweddaraf. Er mai fel ‘Grantiau bychain’ yr adnabyddir y cynllun, fe fu’r dylanwad ar fudiadau o fewn y sector gwirfoddol yng Nghymru yn fawr. Trwy gyfrwng y cynllun Grantiau bychain gall y Bwrdd Elusennau gynorthwyo a hwyluso datblygiad y grwpiau trwy gynnig arian ar gyfer elfennau fel offer, hyfforddiant, cyhoeddusrwydd, astudiaethau dichonolrwydd, digwyddiadau, treuliau gwirfoddolwyr, costau trwsio adeiladau, addysg a seminarau. Mae y cynllun hwn yn cynnig arian ar gyfer datblygu gwreiddiau cymunedau drwy Gymru a hyd yma cyfanswm yr arian a ddyfarnwyd o dan y cynllun Grantiau bychain yng Nghymru yw £1.9 miliwn i 813 o grwpiau."

Tanlinellir poblogrwydd a llwyddiant y rhaglen gan y ffaith, ers iddo gael ei gyflwyno fel cynllun peilot yng Nghymru, y bydd bellach yn cael ei ymestyn ar draws y DG.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru, Roy Norris, "Mae y Grantiau bychain yn ddelfrydol ar gyfer y grwpiau gwirfoddol sy’n weithredol yng Nghymru, gan eu bod yn cynnig cyllid ar gyfer grwpiau gydag incwm o lai na £10,000 i’w galluogi i wneud eu gwaith. Cawsom ein calonogi gan ansawdd y ceisiadau sydd yn arwain at lwyddiant un ym mhob dau o blith ceisiadau am Grantiau bychain. Mae y Bwrdd yn parhau i ymgyrraedd allan at grwpiau nad ydynt hyd yma wedi gwneud ceisiadau neu nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus, trwy gynnig seminarau hyfforddi ar draws Cymru. Yr ydym yn estyn croeso i unrhyw un sydd angen gwybodaeth bellach i gysylltu â ni ar y rhif ffôn: 0345 273273."