[ENGLISH] [Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
19 Rhagfyr 1997 Cyfrannu At Y Gymuned Ym 1998Ni ddylai gwaith elusennol a gwirfoddol ddod i ben adeg y Nadolig. Dyna’r neges a bwysleisir gan Tom Jones, Cadeirydd Pwyllgor Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yng Nghymru. Drwy gyfeirio’n benodol at y cyhoedd a phob grp sydd yn helpu’r rhai o dan anfantais neu sydd yn gwella ansawdd bywyd mewn cymunedau, y mae yn eu hannog i wneud yn fawr o’r hyn sydd gan y Bwrdd Elusennau i’w gynnig ym 1998. Hyd yma, mae dros £39 miliwn wedi ei ddyfarnu i 1,178 o grwpiau yng Nghymru. Gan gyfeirio at newidiadau yn y dulliau ymgeisio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, dywedodd Tom Jones, "Yr ydym wedi cymryd camau allweddol er mwyn sicrhau fod 1998 yn flwyddyn lwyddiannus o ran cynnig y cymorth mwyaf bosibl i’r rhai o dan anfantais ac atgyfnerthu cefnogaeth y gymuned i bob achos ac oed. Fodd bynnag, y grwpiau gwirfoddol ledled Cymru sydd fwyaf ymwybodol o anghenion eu cymunedau lleol ac yr wyf yn eu hannog i adnabod ac ymateb i’r anghenion hyn a gwneud cais am grantiau. O’r pum math o grantiau sydd ar gael y flwyddyn hon mae dwy raglen a fydd yn apelio at amrywiaeth helaeth o grwpiau y’u gelwir yn Gweithredu Cymunedol a Thlodi; Cynllun grantiau bychain, sydd mor boblogaidd ag erioed ac yn cynnig hyd at £5,000 ar gyfer anghenion uniongyrchol; ac Ymchwil iechyd a chymdeithasol a Grantiau rhyngwladol sydd yn rhaglenni mwy penodol. Tra’n dymuno y bydd 1998 yn flwyddyn lwyddiannus i’r holl elusennau a grwpiau gwirfoddol yng Nghymru a’r rhai sydd yn cael budd o’u gwaith, hoffwn eu hatgoffa oll fod y Bwrdd Elusennau yma i’w cefnogi." |