|
[Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
3 Rhagfyr 1997 Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol Yn Cefnogi - Elusennau A Grwpiau Cymuned Bychain Yng NghymruDatgelodd Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol ei ddull newydd o ddyfarnu grantiau heddiw yn dilyn ymgynghoriad eang gyda’r sector gwirfoddol. Datgelwyd y cynlluniau mewn taflen newydd ‘Rhaglenni grantiau newydd’ a gyhoeddwyd heddiw ac y gellir cael copi ohoni drwy ffonio 0345 273273. Mae newidiadau allweddol yn cynnwys:
Eglurodd Timothy Hornsby, Prif Weithredwr y Bwrdd: ‘Bydd y cyfle cyntaf i grwpiau gael budd o’n dull newydd o ddyfarnu grantiau o dan ein rhaglen grantiau newydd, Gweithredu cymunedol. Mae’r llinell gais yn agor ar 19 Ionawr 1998. Fe fydd yn ariannu prosiectau sy’n cefnogi gweithgareddau cymunedol, yn ogystal â phrosiectau i wneud cymunedau yn fwy diogel i fyw ynddynt. ‘Erbyn yr haf, bydd modd gwneud ceisiadau ar gyfer ail brif raglen grantiau, sef Tlodi. Bydd y ddwy brif raglen grantiau hyn ar agor ar yr un pryd a gall mudiadau wneud cais i’r ddwy raglen yma am arian ar gyfer prosiectau gwahanol. ‘Yn ychwanegol, bydd rhaglenni arbennig eraill yn cynnig grantiau i grwpiau cymunedol, prosiectau ymchwil iechyd a chymdeithasol a mudiadau wedi eu lleoli yn y DG yn gweithio dramor. Mae ein taflen newydd yn egluro pryd y gall grwpiau wneud cais a’r math o brosiectau a fydd yn cael eu hariannu.’ Mae dros 3,000 o elusennau bychain eisoes wedi derbyn £8 miliwn o dan y rhaglen beilot Cynllun grantiau bychain yn yr Alban, Cymru, Gogledd Ddwyrain a De Orllewin Lloegr. Bydd y cynllun yn cael ei ymestyn i weddill y DG erbyn haf 1998. Eglurodd Timothy Hornsby: ‘Yr ydym wedi dyfarnu dros £680 miliwn yn barod i 12,000 o brosiectau cymunedol lleol wedi eu rhedeg gan sgowtiaid a geidiaid, clybiau henoed, clybiau hunan gymorth, grwpiau pobl anabl, ysgolion meithrin, neuaddau pentref a chlybiau ar ôl ysgol. Gobeithiwn y bydd y rhaglenni newydd hyn yn parhau â’n hymdrechion blaenorol ac yn hwyluso’r dasg o wneud cais am grant gan y Bwrdd Elusennau.’ Ychwanegodd: ‘Mae modd gwneud cais i’r Bwrdd Elusennau os ydi’r mudiad wedi ei sefydlu i helpu eraill. Nid oes yn rhaid i chi fod yn elusen gofrestredig i wneud cais.’ Mae’r Bwrdd Elusennau yn cydweithio’n agos gyda thri arall o ddosranwyr arian y Loteri mewn menter newydd, sef Cyngor Celfyddydau’r Alban, Cyngor Chwaraeon yr Alban a Chronfa Treftadaeth y Loteri, i ddatblygu rhaglen grantiau cymunedol yn yr Alban. |