Ers sefydlu Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol ym 1995, mae rhywfaint o anwybodaeth wedi datblygu ynglyn �'r Bwrdd a'i waith. Edrychwn ar rai o'r anwireddau a rhown y ffeithiau cywir isod.
Cewch hefyd wrando ar sgwrs rhwng Paul Hensby, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Robert Blow, Swyddog y Wasg yn trafod yr anwireddau trwy glicio ar y cyswllt swn wrth ymyl pob un. Bydd angen Real Player arnoch i ddefnyddio'r teclyn hwn.
Anwiredd: Camelot sy'n dosbarthu'r arian i'r achosion da.
Ffaith: Camelot sy'n rhedeg y Loteri. Mae Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn dosbarthu 4.7 ceiniog o bob punt sy'n cael ei gwario ar y Loteri i elusennau a grwpiau gwirfoddol gan gynorthwyo y rhai mwyaf difreintiedig a gwella ansawdd bywyd.
Anwiredd: Rhoddodd y Bwrdd Elusennau �78 miliwn i't Ty Opera Cenedlaethol
a �12 miliwn i brynu papurau Churchill.
Ffaith: Cyrff eraill y loteri a ddosbarthodd yr arian hynny. Y grant mwyaf erioed i'r Bwrdd Elusennau ei ddosbarthu yw �1.4 miliwn i Clybiau Ieuenctid DG. Mae grant cyfartalog gan y Bwrdd Elusennau o gwmpas �50,000.
Anwiredd: Nid yw'r Bwrdd Elusennau yn rhoi arian tuag at ymchwil feddygol.
Ffaith: Mae'r Bwrdd Elusennau wedi rhoi dros �16 miliwn i brosiectau ymchwil meddygol.
Anwiredd: Mae'r Bwrdd Elusennau ond yn rhoi arian i achosion sy'n wleidyddol
gywir ac yn anwybyddu elusennau mwy poblogaidd a chanolog.
Ffaith: Mae pob cais yn cael ei asesu yn �l ei deilyngdod. Mae'r mwyafrif o'r elusennau mwyaf adnabyddus wedi dernyn grant gan y Bwrdd Elusennau, yn ogystal � grwpiau llai sy'n helpu hoywon, pobl yn chwilio am loches, rhent lanciau, puteiniaid a phobl o leiafrifoedd ethnig. Teilwng, ie. Gwleidyddol gywir, na.
Anwiredd: Gwrthododd y Bwrdd Elusennau gais gan St Dunstan's - yr elusen i
gyn filwyr a gwragedd dall - am nad ydynt yn cefnogi mudiadau i hen filwyr.
Ffaith: Nid yw hyn yn wir. Rydym wedi rhoi arian sylweddol i grwpiau o hen filwyr. Gwrthodwyd St Dunstan am fod ganddynt �44 miliwn yn y banc. Nid yw'r Bwrdd Elusennau yn gwneud elusennau cyfoethog yn gyfoethocach
Anwiredd: Mae grantiau'r Bwrdd Elusennau yn cymryd lle arian gan y
Llywodraeth.
Ffaith: Ni fyddwn yn ariannu unrhyw brosiect sy'n defnyddio grant gan y Bwrdd Elusennau i gymryd lle arian y llywodraeth ganol neu leol neu'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.
Anwiredd: Rhoddodd y Bwrdd Elusennau �300,000 i Indiaid o Beriw fagu moch cwta tew.
Ffaith: Dyfarnwyd �30,000 i annog ffermwyr yn yr Andes i ddefnyddio dulliau amaethu traddodiadol i gynyddu cynnyrch ac amddiffyn yr amgylchedd. Dim ond �2,000 a ddefnyddiwyd i fagu moch cwta, sy'n fwyd traddodiadol yn yr Andes.
Anwiredd: Dyfarnodd y Bwrdd Elusennau grant i roi gwres canolog a
chawodydd i foch ar fferm ddinesig.
Ffaith: Roedd y grant yn caniat�u i blant anabl weld yr anifeiliaid ar y fferm ddinesig ar gyrion Sheffield. Defnyddiwyd ychydig o'r arian i wella cytiau'r moch gan gynnwys gwresogi ac ymolchi.
Anwiredd: Dim ond elusennau sydd wedi eu cofrestru gall dderbyn grant gan y
Bwrdd Elusennau.
Ffaith: Cyn belled � bod y grwp yn gallu dangos eu bod wedi ei sefydlu at ddiben elusennol, maent yn gymwys i ymgeisio. Hyd yma mae 30 y cant o'r holl grwpiau a dderbyniodd grant gan y Bwrdd Elusennau heb eu cofrestri fel elusen.
Anwiredd: Bydd y Bwrdd ond yn rhoi grant os yw'r ymgeisydd hefyd yn barod i
gyfrannu rhywfaint o'r arian.
faith: Na. Mae'r Bwrdd yn ariannu 100% o gostau'r prosiect.
Anwiredd: Nid yw'r Bwrdd yn dosbarthu llawer o arian - mae tipyn ohono yng
nghyfrif banc y Bwrdd.
Ffaith: Mae'r Bwrdd wedi dyfarnu dros �1.4 biliwn. Mae wedi rhoi grantiau hyd eithaf ei gyllid. Mae rhai grantiau dros ddwy neu dair blynedd ac fe delir y grant ar hyd oes y prosiect.
Anwiredd: Mae gan y Bwrdd ddigonedd o arian a bydd yn rhoi arian i'r mwyafrif
o'r ymgeiswyr.
Ffaith: Mae'n rhaid i bob pwyllgor dyfarnu wrthod llawer o geisiadau da am nad oes digon o arian yn eu cyllid.
Anwiredd: Nid yw'r Bwrdd yn rhoi grantiau ar gyfer cyflogau.
Ffaith: Na, mae'r Bwrdd yn talu am gyflogau - grantiau refeniw - ac am adeiladau ac offer - grantiau cyfalaf.
Anwiredd: Mae'r ffurflen yn gymhleth ac mae angen cynghorwyr proffesiynol i'w llenwi
Ffaith: Mae'r Bwrdd yn gwrthwynebu i grwpiau ddefnyddio cynghorwyr allanol i lenwi'r ffurflen. Rydym yn ceisio'i gwneud hi mor syml � phosib, er wrth gwrs mae'n rhaid i ni ofyn am lawer o wybodaeth er mwyn sicrhau fod y penderfyniadau iawn yn cymryd lle ac er mwyn gallu monitro lle aeth yr arian.
Anwiredd: Mae'n amhosib i grwpiau bach dderbyn symiau bach o arian.
Ffaith: Mae Cynllun grantiau bychain yng Nghymru a Gogledd Iwerddon a Chynllun Gwobrau i Bawb yn yr Alban a Lloegr sy'n dosbarthu grantiau rhwng �500 a �5,000 i grwpiau ag incwm blynyddol dan �15,000. Mae'r ffurflen gais yn symlach.