|
[Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
Llun: Marc CwestiwnPwy ydym niNi yw�r corff annibynnol a sefydlwyd gan y Senedd i ddosbarthu arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol i gefnogi mudiadau elusennol, llesiannol a dyngarol ledled gwledydd y DG. Rydym hefyd yn rhoi grantiau i fudiadau sydd �u canolfan yn y DG ond sy�n gweithio dramor. Tan fis Hydref 1997, rhannwyd 28 y cant o'r arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol yn gyfartal rhwng pump achos da - elusennau, treftadaeth, prosiectau i ddynodi'r Mileniwm, celf a chwaraeon. Dosbarthwyd y cronfeydd hyn gan Fwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol, Cronfa Treftadaeth y Loteri, Comisiwn y Mileniwm, Cynghorau Chwaraeon a Chelfyddydau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ers mis Hydref 1997, rhoddwyd cyfran o arian Loteri i chweched dosbarthwr arian loteri, sef y Gronfa Cyfleoedd Newydd. Bydd y gronfa hon yn rhoi grantiau i brosiectau sy'n delio � materion amgylcheddol, addysg a iechyd. Mae Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn derbyn 4.7c o bob £1 sy'n cael ei gwario ar y Loteri. Mae gan Fwrdd Elusennau�r Loteri Genedlaethol 17 aelod ar y Bwrdd gan gynnwys y Cadeirydd. Mae yna bum pwyllgor grantiau gwlad sy�n cynnwys aelodau�r Bwrdd ac sy�n cynrychioli Lloegr, Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a�r DG. Mae pwyllgor y DG yn dyfarnu grantiau ar gyfer Rhaglen grantiau rhyngwladol yn dilyn derbyn argymhellion gan y Panel Ymgynghori Rhyngwladol. |