|
[Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
Ffurflen gais electroneg - Cwestiynau ac atebion
Cyflwyniad Mae'r Ffurflen gais electroneg yn rhaglen gyfrifiadurol ar ddisg hyblyg. Cewch ddangos ffurflen gais prif grantiau'r Bwrdd Elusennau ar eich sgr�n, teipio atebion, storio manylion ac argraffu Datganiad ffurflen gais ar gyfer ei llofnodi. Dechrau'r ffurflen gais electroneg ar ddisg Mae'n rhaid defnyddio peiriant sy'n gyfrifiadur personol - nid Mac (Apple Macintosh), 486 neu uwch � gyriant disg hyblyg 3.5 modfedd, sy'n rhedeg Microsoft Windows 3.1, 3.11, 95, 98 neu 2000. Mae'n bosib ei redeg ar rai fersiynau o Windows NT ond efallai cewch rhai effeithiau rhyfedd ar y sgr�n. Sut i ddechrau'r ffurflen gais electroneg?
Mae'r ffenestr gyntaf yn gofyn os ydych am ddefnyddio Darllenydd sgr�n neu feddalwedd Braille. Nid yw'n bosib i ddefnyddio hwn ar ffurflen electroneg Gymraeg. Bydd y Cyflwyniad i'r ffurflen gais yn ymddangos ar y sgr�n ac yna'r ffurflen ei hun i chi ei llenwi. Mae'r Cyflwyniad yn rhoi canllawiau ar sut i ddefnyddio'r meddalwedd. Cewch edrych ar y cyflwyniad a chanllawiau eraill o'r ddewislen Help ar unrhyw adeg. Llenwi'r bylchau Rhoddir cyfarwyddiadau llawn ar lenwi'r bylchau a symud o gwmpas y ffurflen gais ar y ddewislen Help ar y ddisg. Dyma grynodeb o sut i symud o gwmpas y ffurflen:
Pam fod cyfansymiau yn ymddangos yn otomatig mewn rhai o'r tablau ond nid eraill? Cewch gyfansymiau otomatig yn y tablau mawr yn adran C19. Mae'n rhaid i ymgeiswyr nodi'r cyfanswm eu hunain mewn rhannau eraill o'r ffurflen Trafferthion argraffu Pam fod angen i mi argraffu'r ffurflen? Mae'n rhaid i ymgeiswyr argraffu Datganiad ffurflen gais (Adran D) er mwyn ei llofnodi a'i anfon i'r Bwrdd Elusennau gyda'r ddisg orffenedig. Mae'n bosib y bydd yn rhaid iddynt argraffu'r tudalennau Consortiwm ar gyfer yr aelodau consortiwm (Adran Ch). Cewch argraffu rhannau eraill o'r ffurflen er gwybodaeth yr ymgeisydd yn unig. Pam fod y broses argraffu mor araf? Mae'r ddisg yn defnyddio darlun graffeg o bob tudalen, felly mae'n arafach ac yn edrych yn wahanol i'r arfer. Pam fod y sgr�n yn neidio wrth argraffu? Mae'r rhaglen yn argraffu darlun ar wah�n o bob tudalen, felly bydd yn ymddangos am gyfnod byr ar y sgr�n. Sut fedra i argraffu rhannau gwahanol o'r ffurflen? Cewch argraffu'r ffurflen gyfan, y Datganiad ffurflen gais, y tudalennau Consortiwm, tudalen unigol neu gyfres o dudalennau. Dewiswch Ffeil + Argraffu o'r ddewislen a dewis yr un priodol. Atal yr argraffu Dewiswch Cancel wrth i bob tudalen ymddangos. Darllenydd sgr�n a meddalwedd darlun Braille Beth yw darllenydd sgr�n? Meddalwedd arbennig yw hwn sy'n defnyddio llais i ddarllen yr hyn sydd ar y sgr�n. Ni allwch ddefnyddio'r offer hwn ar ffurflen electroneg Gymraeg. Bydd yn rhaid i chi ddefnyddio ffurflen Saesneg os ydych yn dymuno defnyddio'r adnoddau hyn. Datganiad ffurflen gais Beth yw'r Datganiad ffurflen gais? Y Datganiad ffurflen gais yw Adran D y ffurflen ac mae'n cyfateb i'r adran honno o'r ffurflen bapur gyda rhai cyfarwyddiadau ychwanegol. Mae'n bosib i chi ei lenwi ar y sgr�n, ond mae'n rhaid i chi ei argraffu er mwyn ei lofnodi gan nifer o bobl wahanol. Sut fedra i newid yr atebion - rwyf wedi argraffu Datganiad ffurflen gais? Bydd newid yr atebion yn achosi i'r Rhif Dilysrwydd Cais newid ar y ddisg ac ar unrhyw ddatganiad a argraffir. Mae'n rhaid i chi ail argraffu'r datganiad, a sicrhau ei fod yn cael ei lofnodi, ar �l i chi newid yr atebion. Beth yw'r Rhif Dilysrwydd Cais? Mae'n caniat�u i ni weld bod y Datganiad ffurflen gais yn cyfateb i'r atebion a roddwyd gennych ac nad ydych wedi newid unrhyw atebion ar �l argraffu'r ffurflen. Sut fedra i weld os yw'r atebion wedi newid ers argraffu'r ffurflen? Edrychwch ar y sgr�n ar dudalen gyntaf y Datganiad. Mae'n dangos y Rhif Dilysrwydd Cais. Os yw hwn yr un fath �'r un at y datganiad printiedig, nid yw'r atebion wedi eu newid. Cop�o'r ddisg Pam ddyle ni gop�o'r ddisg? Mae cop�o'r ddisg yn bwysig. Dylech wneud hyn er diogelwch, rhag ofn i'r ddisg fynd ar goll yn y post neu ein bod ni'n methu darllen yr wybodaeth sydd arni. Sut fedra i gop�o'r ddisg?
Gwagle i atebion hir Beth yw'r botwm copi? Ar rai rhannau o'r ffurflen, mae'n caniat�u i chi gop�o cyfres o gwestiynau pan fod angen gwneud hynny. Sut fedra i gop�o cyfres o gwestiynau sydd angen i mi eu hail ateb? Cliciwch ar y botwm Copi os oes un yno. Cewch wneud hyn mwy nag unwaith os oes angen. Pwyswch Tudalen Lawr i fynd at y cwestiynau a gop�wyd. Dylech nodi ei fod ar dudalen ar wah�n ond gyda'r un rhif tudalen. Os nad oes botwm Copi, nid oes angen i chi gop�o'r cwestiynau. Nid oes digon o le i'r ateb. Os nad oes digon o le i unrhyw ateb cewch gario 'mlaen yn y blwch parhad ar ddiwedd Adran Ch. Cewch gop�o'r blwch os oes angen ond ni ddylai unrhyw ateb ymestyn dros fwy nag un blwch. Gofalwch ddweud wrthym pa gwestiwn rydych yn ei ateb. Cyffredinol Pam mae'n rhaid i mi glicio ar flychau OK drwy'r amser? Rydych wedi dewis defnyddio darllenydd sgr�n. Ni allwch ddefnyddio hwn gyda'r ddisg Gymraeg. |