Pwy gall ymgeisio
I ymgeisio am grant mae'n rhaid i chi
- fod wedi eich sefydlu at ddibenion elusennol, llesiannol neu ddyngarol
- feddu ar gyfansoddiad neu set o reolau, sy'n dynodi nodau eich mudiad a'r
modd rydych yn gweithredu.
- gael cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn enw eich mudiad sydd angen
o leiaf dau lofnod ar bob siec
- allu cyflwyno copi o'ch cyfrifon diweddaraf wedi eu cymeradwyo a'u dyddio
a'u llofnodi
- nid oes rhaid i chi fod yn elusen gofrestredig i fod yn gymwys am grant
Os ydych eisoes yn dal grant gan y Bwrdd cewch ymgeisio am grant arall:
- am brosiect gwahanol
- i ddatblygu prosiect sydd eisoes yn cael ei ariannu gan y Bwrdd, os oes
llai na blwyddyn o'r grant ar �l i redeg.
Mae'r daflen Pwy sy'n gymwys, yn esbonio'r meini prawf cymhwyster yn fanwl.
Ffoniwch eich swyddfa Bwrdd Elusennau leol am daflen.