|
[Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
Sut i ddefnyddio Safle gwe Bwrdd Elusennau'r Loteri GenedlaetholCynlluniwyd safle gwe Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol fel bod pobl � nam ar eu clyw neu ar eu golwg yn cael defnydd mor llawn � phosib ohono. Rydym wedi ceisio cydymffurfio �r tair blaenoriaeth ar gyfer mynediad i gynnwys y we a nodir gan Gonsortiwm y We Fyd Eang. Ar dudalen gyntaf y safle www.nlcb.org.uk, cewch ddewis rhwng y safle testun yn unig neu'r safle cyflawn. Mae'r ddau safle yn cynnwys yr un wybodaeth wedi ei gyflwyno mewn dulliau gwahanol. Mae'r safle testun yn unig yn fwyaf addas ar gyfer pobl sydd � nam ar eu golwg neu'n defnyddio meddalwedd fel porwyr testun-i-leferydd a darllenwyr Braille neu fersiynau cynnar o borwyr Netscape ac Internet Explorer. Mae'n cynnwys yr un adnoddau �'r safle cyflawn fel teclyn dwyieithog Cymraeg-Saesneg, cronfa ddata/datganiadau i'r wasg i'w archwilio a'r gwasanaeth ddanfon cwestiwn i'r Bwrdd Elusennau. Mae'r safle cyflawn yn well ar gyfer pobl heb feddalwedd arbennig ac sy'n defnyddio porwyr Netscape 2.0/Internet Explorer 3.0 neu uwch. Mae'r safle hyn hefyd yn cynnwys amryw o ddarluniau y cewch ddewis peidio �'i defnyddio wrth newid y gosodiadau ar eich porwr. Cewch chwyddo'r testun ar y safle hwn wrth newid y gosodiadau ar eich porwr. Wrth agor unrhyw un o'r safleoedd, fe welwch amryw o ddewislenni ar ochr chwith ac ar draws rhan uchaf y dudalen. Mae'r rhain yn caniat�u chi symud o un lle i'r llall o fewn y safle. Cewch ddefnyddio y teclyn dwyieithog Cymraeg-Saesneg ar unrhyw adeg wrth ddewis "English" neu "Cymraeg" ar ochr chwith y dudalen. Ni fydd y rhannau o safle gwe y Bwrdd Elusennau sy'n ymwneud � rhanbarthau y tu allan i Gymru, ar gael yn y Gymraeg. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, awgrymiadau neu drafferthion �'r safle, cewch gysylltu � gweinyddwr y we drwy'r ebost ar [email protected] neu ar y ff�n wrth alw 0171 747 5357 neu 0171 747 5226. |