TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-






[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

Pwy sy'n gymwys

Cynnwys:


Dadlwytho'r ddogfen hon:

Gallwch ddadlwytho'r ddogfen ar eich cyfrifiadur mewn Adobe Acrobat (pdf). I'w ddarllen mae'n rhaid i chi gael y meddalwedd am ddim Adobe Acrobat Reader (fersiwn 3 neu uwch ) ar eich cyfrifiadur. Cewch ddadlwytho hwn isod.


Pwy sy'n gymwys?

Mae'r daflen yma'n esbonio'r hyn a olyga Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol wrth s�n am fod yn gymwys. Mudiadau cymwys yn unig gall dderbyn grantiau gan y Bwrdd Elusennau. Mae llawer o grwpiau � phrosiectau ardderchog yn disgyn y tu allan i'n rheolau cymhwyster ac felly ni fedrwn eu hariannu.

Mae'r daflen yma'n nodi canllawiau ynglyn �'r mudiadau y gallwn eu hariannu. Bydd yn gymorth i chi benderfynu os yw eich mudiad yn gymwys. Os nad yw eich mudiad yn gymwys, a'ch bod yn dymuno ceisio am grant gennym, fe all fod o gymorth i ystyried pa newidiadau byddai'n rhaid i chi eu gwneud. Ond canllaw i'r prif feysydd yn unig ydyw. Am arweiniad pellach, cysylltwch �'ch swyddfa Bwrdd Elusennau lleol; mae rhestr o'r cyfeiriadau yng nghefn y daflen.

  • N'�l i'r cynnwys


    Beth mae cymwys yn ei olygu?

    Yn �l y gyfraith gall Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol ond rhoi grantiau i fudiadau a sefydlwyd yn y Deyrnas Gyfunol at ddibenion elusennol,llesiannol neu ddyngarol. Mae'n rhaid i ni benderfynu os yw mudiad yn disgyn i un o'r dosbarthiadau hyn ar sail y geiriau a ddefnyddir yn ei gyfansoddiad yn hytrach nag unrhyw waith a wneir neu a fwriadir ei wneud ganddo. Y diffiniad cyfreithiol yma yw'r hyn y cyfeiriwn ato wrth s�n am gymhwyster.

    Mae'r Bwrdd Elusennau wedi datblygu polis�au am y mathau o fudiadau a phrosiectau y dymunwn eu hariannu. Ceir manylion pellach am y polis�au hyn yn y pecynnau cais a chyhoeddiadau eraill. Ond mae'n rhaid i fudiad fod yn gymwys cyn y medrwn ystyried ei gais yn erbyn ein polis�au a blaenoriaethau'r rhaglenni.


    A yw eich mudiad yn elusen?

    Rhaid i fudiadau sy'n ymgeisio i'r Bwrdd Elusennau gyfarfod �'n gofynion cymhwyster. Mewn llawer o achosion, bydd mudiadau eisoes wedi eu cydnabod yn elusennau yn �l y gyfraith. Mae hyn yn cynnwys y canlynol

    • elusen sydd wedi ei chofrestru gyda�r Comisiwn Elusennau yng Nghymru a Lloegr
    • elusen a gydnabyddir gan Gyllid y Wlad yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon
    • elusen sydd wedi esgusodi neu'n eithriedig ac a gydnabyddir gan Gyllid y Wlad

    Os yw eich mudiad wedi ei gofrestru gan y Comisiwn Elusennau mae'n gymwys i geisio am grant. Os yw eich mudiad wedi ei gydnabod gan Gyllid y Wlad am ei fod yn disgyn i un o'r dosbarthiadau eraill uchod, mae hyn yn dystiolaeth o statws elusennol ond byddai'n rhaid i ni archwilio eich cyfansoddiad i wneud yn sicr o hyn.

    Os yw eich mudiad yn disgyn i un o'r dosbarthiadau yma, gofynnir i chi ddyfynnu eich rhif cofrestru neu�ch cyfeirnod ar eich ffurflen gais ac i gynnwys copi o'ch cyfansoddiad.

    Ond, mae amryw o fudiadau eraill yn gymwys i ymgeisio. Mae'r mwyafrif o'r daflen yma yn rhoi gwybodaeth cyffredinol ar sut y byddwn yn penderfynu os yw grwpiau eraill yn gymwys, ond dylech nodi bod yn rhaid i ni gyfeirio at faes cymhleth cyfraith elusennau ym mhob achos

  • N'�l i'r cynnwys


    Cyfraith Elusennau

    Er mwyn i sefydliad fod yn elusen, rhaid iddo fodoli at ddibenion sy'n cael eu hystyried gan y gyfraith yn llwyr elusennol. Yn fras, golyga hyn y bydd yn rhaid i elusennau fod er budd y cyhoedd, a rhaid i'w holl fwriadau (neu amcanion neu nodau) fod yn elusennol. Mae'r gyfraith yn cydnabod pedwar grwp o amcanion yn rhai elusennol:

    • cynorthwyo pobl dlawd, oedrannus, s�l neu anabl, naill ai drwy gymorth uniongyrchol neu, er enghraifft, drwy ddarparu offer neu gyngor;
    • hybu addysg, gan gynnwys cefnogi sefydliadau addysgol a grwpiau chwarae, sefydliadau ieuenctid, sefydliadau sy'n darparu hyfforddiant galwedigaethol a sefydliadau ymchwil;
    • hyrwyddo crefydd (mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o grefyddau cydnabyddedig, fodd bynnag, mae�n bolisi gan y Bwrdd i beidio � chynnig cymorth i weithgareddau crefyddol megis addoli neu waith cenhadol);
    • dibenion eraill sydd o fudd i'r gymuned. Nid yw'r categori hwn mor eang ag y mae ei deitl yn awgrymu ond mae�n cynnwys sefydliadau a sefydlwyd i:
      • ddarparu tir ac adeiladau at ddefnydd y cyhoedd (gan gynnwys neuaddau cymuned neu bentref a meysydd chwarae)
      • adsefydlu ac adfer troseddwyr a phobl sy'n camddefnyddio sylweddau
      • gwarchod yr amgylchedd a chadwraeth rhywogaethau prin
      • gofalu am anifeiliaid s�l neu rai sydd wedi eu hesgeuluso neu atal creulondeb i anifeiliaid
      • hyrwyddo diwydiant, masnach neu'r celfyddydau.

    Gall fudiadau a sefydlir i ddarparu adnoddau hamdden cymunedol fod yn elusennol hefyd.

    Ni ddylech ddibynnu yn llwyr ar y canllaw yma i ddatblygu amcanion eich mudiad gan mai braslun yn unig ydyw. Mae cyfraith elusennau yn gymhleth a dylech gyfeirio at eich swyddfa Bwrdd Elusennau lleol neu asiant arall am wybodaeth a chyngor pellach.

  • N'�l i'r cynnwys


    Mudiadau dyngarol neu llesiannol

    Mae amryw o grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn methu bodloni'r profion lled gaeth ar gyfer statws elusennol, ond gallant fod yn gymwys i ymgeisio fel mudiad dyngarol neu llesiannol.

    Yn anffodus nid oes rheolau clir yn bodoli ar gyfer amcanion dyngarol neu llesiannol, ond mae'r Bwrdd Elusennau wedi derbyn cyngor cyfreithiol sy'n nodi gall mudiad gael ei ystyried yn ddyngarol neu'n llesiannol os:

    • yw wedi ei sefydlu ac yn cael ei weithredu ar linellau tebyg i elusen;
    • yw mwyafrif ei fwriadau neu amcanion yn rhai elusennol yn �l y gyfraith(gweler "Cyfraith Elusennau" uchod) neu yn agos iawn at fod felly;
    • yw yn gwahardd unrhyw un rhag gwneud elw wrth fod yn gysylltiedig ag ef; a
    • os nad yw ei amcanion yn rhai gwleidyddol neu athrawiaethol.

    Os tybiwch eich bod yn fudiad llesiannol neu ddyngarol, byddwn yn edrych ar eich cyfansoddiad neu reolau i benderfynu a ydych yn gymwys ai peidio. Yn ddiweddarach yn y daflen yma, byddwn yn rhoi gwybodaeth am rai achosion arbennig a mudiadau nad ydynt yn gymwys.

  • N'�l i'r cynnwys


    Eich cyfansoddiad

    Cyfansoddiad eich mudiad yw'r ddogfen a fabwysiadwyd gan y grwp i fanylu sut y gweithredir y mudiad a beth yw ei amcanion. Mae�n bosibl y gelwir y cyfansoddiad yn set o reolau, gweithred ymddiriedolaeth neu, yn achos cwmn�au, Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasiad.

    Bydd y Bwrdd Elusennau yn archwilio cyfansoddiad eich mudiad i benderfynu a ydych yn gymwys i ymgeisio am grant.

    Fel arfer, bydd y cyfansoddiad yn cynnwys y nodweddion isod. Ond nid yw hwn yn rhestr gyflawn o'r wybodaeth sydd ei angen arnoch wrth lunio cyfansoddiad i'ch mudiad.

    • Enw'r mudiad

    • Amcanion y mudiad
      Dylai'r amcanion esbonio'n glir ac mewn termau cryno yr hyn a wna'r mudiad neu'r hyn ei sefydlwyd i wneud. Ni ddylent fod yn amwys. Ni fedr yr amcanion gynnwys unrhyw fwriadau nad ydynt yn cyfateb ag elusen; os gwneir hyn, ni fydd y mudiad yn gymwys.

    • Pwerau
      Dylai'r cyfansoddiad roi pwerau digonol i'r rhai sy'n rheoli'r mudiad fedru weithredu'r amcanion. Yn ddelfrydol dylid gosod yr amcanion mewn adran ar wah�n i'r ddogfen. Ni ddylai'r pwerau ganiat�u i'r mudiad wneud pethau nad ydynt yn elusennol, ddyngarol neu'n llesiannol.

    • Manylion am sut y penodir y corff llywodraethol a sut mae'n rhedeg y mudiad.
      Dylai hwn esbonio sut mae aelodau'r corff llywodraethol yn cael eu henwebu a'u hethol. Dylid nodi unrhyw swyddi eraill (megis trysorydd neu ysgrifennydd) a'r rheolau am gyfarfodydd ac ymddygiad y corff llywodraethol.

    • Aelodaeth
      Nid oes gan pob mudiad cymwys aelodau. Os oes aelodau, dylai'r cyfansoddiad esbonio sut mae pobl yn ymaelodi, a pha hawliau a dyletswyddau bydd ganddynt. Dylid hefyd esbonio'r berthynas rhwng yr aelodau a'r gr�p sy'n rheoli'r mudiad

    • Cymal diddymiad
      Mae hyn yn esbonio'r hyn a ddigwyddai pe bai'r grwp yn penderfynu dirwyn i ben. Rhaid defnyddio eiddo mudiad elusennol, dyngarol a llesiannol er lles y cyhoedd bob amser. Dylai'r cymal diddymiad nodi beth fyddai yn digwydd i arian sy'n weddill wedi i unrhyw ddyledion gael eu clirio. Y dull safonol yw sicrhau y byddai unrhyw asedion net yn cael eu trosglwyddo i fudiad elusennol, dyngarol neu llesiannol sydd ag amcanion tebyg.

  • N'�l i'r cynnwys


    Llunio neu newid eich cyfansoddiad

    Os ydych yn cynrychioli mudiad newydd neu un sydd yn dymuno diweddaru neu newid eich cyfansoddiad, cofiwch fod y daflen yma yn annhebygol o ddarparu'r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch. Mae amryw o asiantaethau cynghori y sector gwirfoddol yn bodoli a fedrai roi cyngor a gwybodaeth manwl i chi. Cysylltwch �'ch swyddfa Bwrdd Elusennau lleol am fanylion o'r asiantaethau lleol a fedrai eich helpu chi.

    Yn anffodus ni fedrwn gynnig cyngor manwl i chi ar ddatblygu eich cyfansoddiad. Mae'n rhaid i ni drin pob cais yn gyfartal ac felly ni fedrwn gynorthwyo mudiadau a cheisiadau unigol. Dylid nodi:

    • ni fedrwn gynghori ar ddatganiadau a chymalau delfrydol
    • medrwn ond ystyried ariannu ceisiadau gan fudiadau sydd yn gymwys pan fyddant yn cyflwyno cais; ni fyddwn yn barod i drafod cymhwyster gyda mudiadau wedi i'r cais gael ei gyflwyno.

    Yn bwysicach oll, cofiwch y dylid ysgrifennu'r cyfansoddiad i adlewyrchu anghenion eich mudiad yn hytrach na blaenoriaethau unrhyw arianwyr. Gall yr asiantaethau lleol eich cynghori chi i ysgrifennu cyfansoddiad a fyddai yn cwrdd ag anghenion eich mudiad.

  • N'�l i'r cynnwys


    Sefydliadau nad ydynt yn gymwys

    Nid yw'r canlynol yn sefydliadau elusennol, llesiannol na dyngarol ac maent yn annhebygol o fod yn gymwys:

    • unigolion
    • cwmn�au masnachol sy'n gwneud elw
    • awdurdodau iechyd, gan gynnwys gwasanaethau neu ysbytai a reolir yn uniongyrchol ganddynt
    • awdurdodau lleol, gan gynnwys sefydliadau a gwasanaethau a reolir yn uniongyrchol ganddynt
    • awdurdodau addysg lleol neu fyrddau addysg a llyfrgell gan gynnwys sefydliadau a gwasanaethau a reolir yn uniongyrchol ganddynt
    • cynghorau plwyf a chymuned
    • ysgolion meithrin neu ysgolion preifat sydd heb statws elusennol

    Dylech nodi ei fod yn bolisi gan y Bwrdd i beidio ariannu rhai mathau eraill o fudiadau. Ceir manylion pellach yn y pecynnau cais.

  • N'�l i'r cynnwys


    Achosion arbennig

    Grwpiau hunan-gymorth

    Os yw eich sefydliad yn bodoli'n bennaf er budd aelodau unigol yn hytrach na'r cyhoedd (neu ran sylweddol o'r cyhoedd) mae'n bosib na fydd yn gymwys oni bai ei fod:

    • yn bodoli i leddfu tlodi neu i leddfu�r caledi a achosir i aelodau oherwydd eu diffyg adnoddau ariannol; neu
    • yn bodoli i leddfu angen sy�n deillio o salwch, anabledd neu henaint ac nad yw'r aelodaeth yn gae�dig nac yn gyfyngedig ond yn agored i bawb sydd �r angen hwnnw.

    Dylai'r rhesymau dros fodolaeth eich sefydliad fod yn amlwg o'r cymal am amcanion neu ddibenion yn eich cyfansoddiad.


    Cymdeithasau tenantiaid neu breswylwyr

    Bydd y rhan fwyaf o gymdeithasau cymwys yn perthyn i un o'r categor�au canlynol.

  • cymdeithasau i denantiaid tlawd
  • cymdeithasau i denantiaid gydag anghenion arbennig, fel pobl oedrannus, anabl neu s�l
  • cymdeithasau sy'n bodoli'n bennaf ar gyfer gweithgareddau adloniant neu hamdden (yn darparu er enghraifft, canolfan gymunedol neu gyfleusterau cymunedol).

    Dylai hyn fod yn glir o'ch cyfansoddiad neu'ch set o reolau.


    Cymdeithasau tai

    Y cymdeithasau tai sy'n gymwys yw'r rhai sy'n darparu tai, un ai i:

    • ateb anghenion pobl sy'n byw mewn amgylchiadau tlawd; neu
    • ateb anghenion tai arbennig pobl oedrannus, anabl neu s�l a darparu cyfleusterau a gwasanaethau iddynt.

    Dylai hyn fod yn glir o gyfansoddiad y gymdeithas.


    Undebau credyd

    Mae undebau credyd yn bodoli'n bennaf er budd eu haelodau yn hytrach nag er budd y cyhoedd ac, yn y rhan fwyaf o achosion felly, nid ydynt yn elusennol, llesiannol na dyngarol.Ond mewn nifer bychan o achosion, gall undebau credyd fod yn gymwys lle bo'r bond aelodaeth cyffredin yn cael ei fynegi yn nhermau lleddfu tlodi.

  • N'�l i'r cynnwys


    Gwybodaeth bellach

    Y Swyddfa Gorfforaethol
    St Vincent House
    16 Suffolk Street
    Llundain
    SW1Y 4NL
    Ff�n: 020 7747 5300
    Ffacs: 020 7747 5214
    Ff�n testun: 020 7747 5347
    Swyddfa Cymru
    Ty Ladywell
    Y Drenewydd
    Powys
    SY16 1JB
    Ff�n: 01686 611700
    Ffacs: 01686 621534
    Ff�n testun: 01686 610205


    Y Rhyngrwyd - ein safle ar y we yw www.nlcb.org.uk

    Mae'r daflen hon hefyd ar gael ar d�p sain a gellir derbyn fersiynau byr mewn Braille ac yn yr ieithoedd canlynol: Arabeg, Bengaleg, Tsiein�eg, Gwjarati,Pwnjabeg, Somalieg, Swahili, ac Wrdw trwy alw'r llinell ff�n Saesneg ar 0345 919191 (Minicom 0345 556656).

    Cyhoeddwyd gan Fwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol, Medi 2000

  • N'�l i'r cynnwys