|
Sefydliad
|
Lleoliad
|
Disgrifiad
|
Swm
|
|
Penybont
|
|
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr
|
Pen-y-bont ar Ogwr
|
Nod y prosiect yw darparu arian ar gyfer gwybodaeth, hyfforddiant a chefnogaeth
i grwpiau gwirfoddol a chymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd y grant tair blynedd yn talu am offer swyddfa, cyflogau, recriwtio,
costau cynnal, cyhoeddi gwybodaeth, hyfforddi a theithio.
|
£118,385
|
|
Materion Iechyd Meddwl Pen-y-bont ar Ogwr
|
Pen-y-bont ar Ogwr
|
Nod y prosiect yw galluogi pobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd
meddwl mewn ysbytai i benderfynu sut ofal a ddarperir. Bydd y grant, am
dair blynedd, yn talu am gyflogi gweithiwr rhan-amser, darparu costau
hyfforddi a theithio ynghyd â chostau cynnal cyffredinol.
|
£51,839
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Penybont: 2 Grant - £170,224.00
|
|
Caerffili
|
|
‘Home-Start' Dwyrain Bwrdeistref Caerffili
|
Y Coed Duon
|
Nod y prosiect yw darparu meithrinfa er mwyn galluogi teuluoedd anghenus
i chwarae rhan yn eu cymunedau. Bydd y grant, am dair blynedd, yn talu
am gyflogi gweinyddydd meithrin llawn-amser, ac yn talu costau teithio,
hyfforddi a chostau cynnal cyffredinol.
|
£52,960
|
|
Grp Cefnogi Teuluoedd Dioddefwyr Clefyd Siwgr Rhymni
|
Y Coed Duon
|
Nod y prosiect yw trefnu gwyliau ar gyfer plant yn dioddef gan glefyd
siwgr Math 1 yng Nghaerffili, ynghyd â'u brodyr a'u
chwiorydd a'u gofalwyr, talu am gyhoeddi cylchlythyr misol a gwella
dulliau cyfathrebu'r grp. Bydd y grant blwyddyn yn talu am y gwyliau
ac am brynu cyfrifiadur, sganiwr ac argraffydd.
|
£19,587
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Caerffili: 2 Grant - £72,547.00
|
|
Caerdydd
|
|
Canolfan Therapi Plant ‘Bobath' Cymru
|
Caerdydd
|
Nod y prosiect yw cynyddu a gwella cyfleusterau canolfan therapi ar gyfer
trin plant yn dioddef gan barlys yr ymennydd. Bydd y grant blwyddyn yn
talu am gostau adeiladu, system ddiogelwch ac offer swyddfa.
|
£229,622
|
|
Undeb Rhieni Caerdydd a'r Cwm
|
Caerdydd
|
Nod y prosiect yw atgyfnerthu gwaith yr Undeb trwy alluogi rhieni a gofalwyr
pobl a chanddynt anableddau dysgu i gael gafael ar wybodaeth yn haws er
mwyn medru chwarae rhan yn y mudiad. Byddant yn cael cynnig cyfleon i
ddatblygu eu sgiliau. Bydd y prosiect yn cynyddu'r ymwybyddiaeth
o faterion yn ymwneud ag anableddau dysgu sy'n dylanwadu ar y gwasanaeth.
Bydd y grant tair blynedd yn talu am offer swyddfa, cyflogau, costau cynnal,
hyfforddiant, costau teithio a chynhyrchu gwybodaeth.
|
£117,967
|
|
Grp ‘Lourdes' Ysbyty Y Mynydd Bychan
|
Caerdydd
|
Bydd y grant yn cyfrannu tuag at gostau digwyddiadau cymunedol yn ystod
y flwyddyn yn ogystal â thalu am wyliau i bobl ifanc. Bydd y grant
tair blynedd yn darparu costau teithio ar gyfer gwibdeithiau, gwyliau
a digwyddiadau cymunedol.
|
£17,550
|
|
Cymdeithas Ddiwylliannol Hindaid
|
Caerdydd
|
Nod y prosiect yw hyrwyddo diwylliant a gwerthoedd holl-Indiaidd a chreu
gwell dealltwriaeth ac integreiddio yn y gymuned ehangach. Bydd y grant
am dair blynedd yn talu am ffitiadau a darnau ar gyfer y Ganolfan Indiaidd,
yn talu cyflogau, ac yn talu am ddigwyddiadau cymunedol a chostau cynnal
cyffredinol.
|
£192,589
|
|
Cyfle Cymru (Vision 21)
|
Caerdydd
|
Nod y prosiect yw darparu cyfleon hyfforddi ar gyfer cannoedd o bobl
anabl trwy greu unedau gweithdy yn cynnig profiad gwaith a hyfforddiant.
Darperir cyfleusterau newydd ar gyfer y gymuned leol yn ogystal, gan annog
pobl anabl a rhai nad ydynt yn anabl i ymgyfuno. Bydd y grant tair blynedd
yn talu am gostau adeiladu ac adnewyddu, cyflogau a chostau cynnal.
|
£852,360
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Caerdydd: 5 Grant - £1,410,088.00
|
|
Sir Gaerfyrddin
|
|
Cynllun Gofalwyr ‘Crossroads' Caerfyrddin a'r Cylch
|
Caerfyrddin
|
Nod y prosiect yw darparu cefnogaeth seibiant dwys i ofalwyr, dros nos,
neu am ddau neu dri diwrnod ar y tro. Bydd y grant tair blynedd yn talu
cyflogau ac yn talu costau recriwtio, teithio a hyfforddi.
|
£194,748
|
|
Neuadd Bentref Llangynog
|
Llangynog
|
Nod y prosiect yw gwella'r neuadd, gan gynnwys mynedfa i'r
anabl a chyfleusterau er lles y gymuned gyfan. Bydd y grant blwyddyn yn
talu am waith adnewyddu, system ddolen a ffioedd proffesiynol.
|
£60,917
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Sir Gaerfyrddin: 2 Grant - £255,665.00
|
|
Ceredigion
|
|
Cymdeithas Welliant Pentref Cellan
|
Cellan, Llanbedr Pont Steffan
|
Nod y prosiect yw adeiladu Neuadd y Mileniwm – cyfleuster cymunedol
er lles y pentref a'r gymuned leol. Bydd yr arian, am flwyddyn,
yn cael ei ddefnyddio i dalu ffïoedd proffesiynol ac i dalu am ran
o'r gwaith adeiladu.
|
£10,230
|
|
SEREN
|
Aberystwyth
|
Nod y prosiect yw datblygu ac ymestyn y gwasanaeth cynghori presennol
ar gyfer pobl a gafodd eu cam-drin yn rhywiol pan yn blant er mwyn cyrraedd
ardaloedd deheuol y sir. Bydd y grant am dair blynedd yn talu am gyflogi
cydlynydd datblygu llawn-amser, am offer swyddfa, rhent, costau cynnal,
deunydd gwybodaeth, hyfforddiant a chostau teithio.
|
£125,749
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Ceredigion: 2 Grant - £135,979.00
|
|
Sir Ddinbych
|
|
‘STARS' yn Y Rhyl Cyf
|
Y Rhyl
|
Nod y prosiect yw cynnig cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth i grwpiau
cymunedol a gwirfoddol lleol sy'n helpu'n ymarferol gyda chodi
arian a materion cyfreithiol cwmnïau ac elusennau. Bydd y grant blwyddyn
yn talu am gyflogau, costau cynnal, hyfforddiant a deunyddiau gwybodaeth.
|
£52,756
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Sir Ddinbych: 1 Grant - £52,756.00
|
|
Gwynedd
|
|
Antur Waunfawr
|
Caernarfon
|
Nod y prosiect yw darparu swyddi a hyfforddiant ar gyfer pobl a chanddynt
anableddau dysgu trwy ddatblygu cynllun ailgylchu dodrefn sy'n bodoli'n
barod er mwyn cynnig gwasanaeth nwyddau gwynion. Bydd y grant dwy flynedd
yn talu am waith adnewyddu, deunydd hyrwyddo, offer profi trydanol, cyflogau,
costau cynnal cyffredinol a chostau hyfforddi a theithio.
|
£221,380
|
|
‘Greenhouse' Cyf
|
Bangor
|
Nod y prosiect yw gwella'r gwasanaethau cefnogi a'r cyfleusterau
a gynigir gan y grp i fudiadau cymunedol lleol trwy benodi cydlynydd llawn-amser.
Bydd y grant tair blynedd yn talu cyflogau a chostau cysylltiol.
|
£88,652
|
|
Neuadd Gymuned Talsarnau
|
Talsarnau, Harlech
|
Nod y prosiect yw adeiladu canolfan gymunedol. Bydd y grant blwyddyn
yn cwrdd â chostau adeiladu, ffioedd proffesiynol, ac yn talu am
ddodrefn ac offer.
|
£270,950
|
|
Llinell Argyfwng Trais Gogledd Orllewin Cymru
|
Bangor
|
Nod y prosiect yw datblygu gwasanaeth allanol ar gyfer merched mewn ardaloedd
difreintiedig, ynysig a gwledig. Bydd yn sefydlu canolfannau cynghori
yng Ngogledd Orllewin Cymru, ac yn trefnu gwaith grp i ferched sy'n
teimlo'n unig a dihyder a hyfforddiant ar gyfer asiantaethau eraill.
Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio am dair blynedd i dalu am gyflogau,
costau cynnal cyffredinol, cynhyrchu gwybodaeth, costau hyfforddi a chynghori
a chostau teithio.
|
£93,720
|
|
Neuadd Bentref Rhoshirwaun a'r Cylch
|
Rhoshirwaun, Penllyn
|
Nod y prosiect yw adeiladu cegin newydd ac adnewyddu'r neuadd bentref
bresennol. Bydd y grant blwyddyn yn talu am waith adeiladu a chostau adnewyddu,
ffioedd proffesiynol ac offer cegin.
|
£42,999
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Gwynedd: 5 Grant - £717,701.00
|
|
Ynys Môn
|
|
Y Neuadd Gymuned
|
Llaingoch, Caergybi
|
Nod y prosiect yw adnewyddu'r neuadd bentref bresennol. Bydd y
grant blwyddyn yn cwrdd â chostau adnewyddu a ffioedd proffesiynol.
|
£95,175
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Môn: 1 Grant - £95,175.00
|
|
Merthyr Tudful
|
|
Clwb Bechgyn a Merched Treharris
|
Treharris
|
Nod y prosiect yw ailadeiladu Clwb Merched a Bechgyn Treharris gan ddarparu
mynedfa i bobl anabl a chyfleusterau eraill. Bydd y grant yn talu am waith
adnewyddu, offer swyddfa, lifft ar gyfer pobl anabl a ffïoedd proffesiynol.
|
£110,500
|
|
Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful
|
Merthyr Tudful
|
Bydd yr adeilad newydd yn darparu canolfan adnoddau amlswyddogaethol
a fydd yn gwella amrywiaeth ac ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael ar
gyfer cymuned Merthyr Tudful. Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio am flwyddyn
i dalu costau adnewyddu, ffioedd proffesiynol ac offer swyddfa.
|
£514,462
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Merthyr Tudful: 2 Grant - £624,962.00
|
|
Sir Fynwy
|
|
Neuadd Plwyf Llanddingad
|
Llanddingad, Trefynwy
|
Nod y prosiect yw adeiladu a darparu offer ar gyfer neuadd bentref newydd.
Bydd yr arian yn cyfrannu tuag at gostau adeiladu, lifft ar gyfer pobl
anabl, offer cyfrifiadurol, dodrefn, offer cegin, offer llwyfan a sain
a chostau tirlunio.
|
£83,977
|
|
Canolfan Gynghori Trefynwy
|
Trefynwy
|
Bydd y prosiect yn galluogi'r ganolfan i gyflogi dirprwy reolwr
a fydd hefyd yn arolygwr dyledion ar gyfer y mudiad ac yn gyfrifol am
hyfforddi'r rhai sy'n gweithio yn y ganolfan. Bydd y grant
am dair blynedd yn talu cyflog gweithiwr rhan-amser, yn talu costau cynnal
cyffredinol, a chostau hyfforddi, cynghori a theithio.
|
£25,775
|
|
Prosiect Ieuenctid Trefynwy
|
Trefynwy
|
Nod y prosiect yw darparu staff cyflawn ar gyfer Caffi Pobl Ifanc. Bydd
y grant tair blynedd yn talu am adnewyddu, ffioedd proffesiynol, cyflogau,
yn ogystal â chostau cynnal, hyfforddi a theithio.
|
£164,396
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Sir Fynwy: 3 Grant - £274,148.00
|
|
Castell Nedd Port Talbot
|
|
Cludiant yr Henoed Dyffryn Afan Uchaf
|
Port Talbot
|
Nod y prosiect yw darparu gwasanaeth cludiant cymunedol ar gyfer yr henoed
a phobl gydag anabledd dysgu neu anabledd corfforol yn ardal Dyffryn Afan
Uchaf. Bydd y grant blwyddyn yn talu am fws mini.
|
£30,000
|
|
Cymdeithas Gristnogol Dynion Ifanc
|
Port Talbot
|
Nod y prosiect yw darparu llety ar gyfer pobl ifanc ddigartref a'i
gwneud yn haws i bobl ifanc ymdoddi i'r gweithle trwy baratoi llwybr
ar gyfer y rhai na fedrent fod yn sicr o waith er mwyn iddynt gyflawni
eu potensial a medru cystadlu'n effeithiol. Bydd y grant tair blynedd
yn talu cyflog, ffioedd gweithwyr annibynnol, costau teithio a chostau
rhedeg cysylltiol.
|
£68,393
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Castell Nedd Port Talbot: 2 Grant -
£98,393.00
|
|
Powys
|
|
Clwb yr Anabl Aberhonddu a'r Cylch
|
Aberhonddu
|
Nod y prosiect yw parhau i hyfforddi a datblygu gwirfoddolwyr, darparu
gwasanaeth gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer pobl anabl neu'r henoed
sydd wedi eu diarddel o gymdeithas neu sydd wedi eu hynysu'n ddaearyddol,
ac ymestyn y gwasanaeth cludiant cymunedol i Sennybridge a'r cylch.
Bydd y grant tair blynedd yn talu am ddau fws mini newydd, cyflogau, costau
cynnal, deunydd gwybodaeth, a chostau hyfforddi, teithio ac ymgynghori.
|
£147,021
|
|
‘Mediation' Powys
|
Llandrindod
|
Nod y prosiect yw cryfhau ac ymestyn y mudiad fel y gall weithio gyda
rhagor o bobl ynghylch â dadleuon mwy amrywiol eu naws, a hyrwyddo
cyfathrebu a gwell dealltwriaeth o sut i ddatrys anghytundebau. Bydd y
grant, am dair blynedd, yn talu am waith adnewyddu ac offer swyddfa, cyflogau,
rhent, costau cynnal, gwybodaeth a chostau hyfforddi a theithio.
|
£81,810
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Powys: 2 Grant - £228,831.00
|
|
Rhondda Cynon Taf
|
|
‘People First' Rhondda Cynon Taf
|
Pontypridd
|
Nod y prosiect yw datblygu sgiliau dadlau pobl a chanddynt anabledd dysgu
trwy sefydlu fforymau rhanbarthol. Bydd y grant tair blynedd yn talu cyflogau
a rhent, costau teithio a chostau cynnal cyffredinol.
|
£232,434
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Rhondda Cynon Taf: 1 Grant - £232,434.00
|
|
Abertawe
|
|
Cyrenians Cymru Cyf
|
Abertawe
|
Nod y prosiect yw lleddfu problemau pobl ifanc ddigartref trwy ddarparu
hostel a gwasanaethau cynghori ar gyfer y rhai sy'n awyddus i ailgartrefu
neu symud ymlaen. Bydd yr arian, am dair blynedd, yn talu cyflogau, rhent
a chostau cynnal canolfan y Gwasanaeth i Bobl Ifanc Ddigartref.
|
£81,394
|
|
Neuadd Bentref Horton
|
Horton
|
Nod y prosiect yw gwella ac ymestyn y neuadd, er mwyn cynnwys mynedfa
i'r anabl er lles y gymuned. Bydd y grant blwyddyn yn talu costau
adeiladu ac adnewyddu a ffioedd proffesiynol.
|
£156,510
|
|
Cyngor Esgobaethol Abertawe ac Aberhonddu ar gyfer Cyfrifoldebau Cymdeithasol
|
Abertawe
|
Nod y prosiect yw ymestyn cyfleon chwarae trwy ddarparu meithrinfeydd
a gofal ar ôl ysgol, cyflwyno rhaglen o ddewisiadau iach ar gyfer
rhieni a gofalwyr a hyfforddiant awdurdodedig ar gyfer rhieni. Bydd y
grant am dair blynedd, yn talu cyfran o gost y prosiect, ac yn talu am
gyflogau, gwyliau, gwibdeithiau, cynlluniau chwarae a chynhyrchu gwybodaeth.
|
£107,395
|
|
Canolfan Gynhori Abertawe
|
Abertawe
|
Nod y prosiect yw sicrhau bod y gwasanaeth ar gael i ragor o bobl trwy
ddatblygu gwasanaeth allanol mewn canolfannau iechyd a chanolfannau cymunedol
eraill. Bydd y grant tair blynedd yn talu cyflog un cynghorwr a chostau
cynnal.
|
£80,557
|
|
Canolfan Gynghori Abertawe
|
Abertawe
|
Nod y prosiect yw sefydlu gwasanaeth arbenigol yn cynnig cyngor ynghylch
dyledion er mwyn cefnogi pobl sy'n wynebu trafferthion ariannol.
Bydd y grant tair blynedd yn cyfrannu tuag at gyflogau dau weithiwr, offer
swyddfa, costau teithio a hyfforddi a chostau cynhyrchu gwybodaeth.
|
£94,324
|
|
Menter Gymreig Cefnogi Cyflogaeth
|
Abertawe
|
Nod y prosiect yw cefnogi pobl a chanddynt anableddau dysgu i ddatblygu
eu hunain trwy ddysgu'n anffurfiol o wirfoddoli neu fynychu dosbarthiadau
addysgol i oedolion yn y gymuned. Bydd y grant tair blynedd yn talu cyflogau,
costau hyfforddi a theithio a chostau cysylltiol eraill.
|
£133,284
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Abertawe: 6 Grant - £653,464.00
|
|
Bro Morgannwg
|
|
Cymdeithas Prosiect Cymunedol Colcot
|
Y Bari
|
Nod y prosiect yw ychwanegu at y gwasanaethau cefnogi cymunedol presennol
ar y stâd yn Colcot trwy sefydlu gwasanaeth allanol. Bydd y gwasanaeth
yn targedu pobl sy'n teimlo'n unig o fewn eu cymunedau trwy
ymweld â chartrefi, ysgolion lleol, clinigau a grwpiau cymunedol.
Bydd y grant tair blynedd yn talu cyflog un gweithiwr datblygu, darparu
hyfforddiant ar gyfer buddiolwyr, staff a gwirfoddolwyr, a thalu costau
cynnal cyffredinol.
|
£72,776
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Bro Morgannwg: 1 Grant - £72,776.00
|
|
Torfaen
|
|
Cymdeithas Gymunedol Croesyceiliog
|
Croesyceiliog
|
Nod y prosiect yw darparu canolfan gymunedol ar gyfer preswylwyr a mudiadau
lleol. Bydd y grant, am dair blynedd, yn talu am brynu ac adnewyddu neuadd,
cyflogi gofalwr a darparu costau cynnal cyffredinol.
|
£152,129
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Torfaen: 1 Grant - £152,129.00
|
|
Cymru gyfan
|
|
Cymdeithas Alzheimer
|
Castell Nedd
|
Nod y prosiect yw rhyddhau'r pwysau a'r unigedd a deimla
gofalwyr yn Ne Cymru trwy ddatblygu gwasanaethau a chyfleusterau cefnogi
newydd. Bydd y grant tair blynedd yn talu costau adeiladu, ffioedd proffesiynol
a thalu am offer swyddfa, cyflogau, rhent, costau cynnal, cynhyrchu deunydd
gwybodaeth, a chostau teithio a hyfforddi.
|
£420,203
|
|
Mewn Cymru – Rhwydwaith ar gyfer Merched Duon neu Freched o Leiafrif
Ethnig
|
Caerdydd
|
Nod y prosiect yw ceisio unioni'r anfantais sy'n wynebu merched
duon a merched o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru, meithrin eu hyder a'u
galluogi i chwarae mwy o ran mewn bywyd cymunedol yng Nghymru. Bydd y
grp yn darparu gwybodaeth ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael eisoes
ac yn datblygu gwasanaethau newydd, yn darparu cyfleon addysg a hyfforddiant
i ferched duon ac o leiafrifoedd ethnig, a chyfleon i hysbysu'r
rhai sy'n penderfynu ar bolisïau ynghylch eu hanghenion tra'n
datblygu mentrau i gwrdd â'r anghenion hynny. Bydd y grant
tair blynedd yn talu am gyflogau, costau cynnal, cynhyrchu gwybodaeth,
a chostau teithio a hyfforddi.
|
£315,683
|
|
Cynghrair Genedlaethol Mudiadau Cymunedol
|
Islington yn gwasanaethu Cymru gyfan
|
Nod y prosiect yw hyrwyddo dysgu anffurfiol, cynyddu gallu cymunedol
ac adfywio cymunedol yng nghymunedau trefol a gwledig Cymru. Bydd hyn
yn cael ei gyflawni trwy ddarparu adnoddau arbenigol ar gyfer datblygu
a chefnogi grwpiau cymunedol. Bydd y grant tair blynedd yn talu am sefydlu
pencadlys newydd yng Nghymru, yn talu cyflogau, costau recriwtio, costau
cynnal, a chostau teithio a hyfforddi a chynhyrchu gwybodaeth.
|
£309,092
|
|
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol ar gyfer y Byddar
|
Caerdydd yn gwasanaethau Cymru gyfan
|
Nod y prosiect yw darparu gwybodaeth sy'n hawdd cael gafael arni
a gwasanaethau cefnogi ar gyfer pobl sydd wedi eu hynysu'n ddaearyddol
neu oherwydd anabledd, lefel incwm, neu ddiffyg mudoledd. Bydd y grant
tair blynedd yn cael ei ddefnyddio i brynu offer swyddfa, i dalu cyflogau,
a thalu am gynhyrchu gwybodaeth, deunydd addysgol a deunydd hyrwyddo,
hyfforddiant, gwaith allanol mewn cymunedau ynysig a chostau cynnal.
|
£158,179
|
|
Prosiect Ymgynghorol Anghenion Arbennig Cymru
|
Caerdydd
|
Nod y prosiect yw sefydlu cynllun cefnogi rhieni, cynyddu nifer gwirfoddolwyr
y mudiad, mynd â'r gwasanaeth yn nes at gymunedau gwledig
a lleiafrifoedd ethnig a gwella rhwydwaith mewnol y mudiad. Bydd y grant
tair blynedd yn talu am offer swyddfa, cyflogau, costau recriwtio, costau
cynnal cyffredinol, cynhyrchu deunydd gwybodaeth a hyfforddiant.
|
£414,881
|
|
Cyngor Henoed Cymru
|
Caerdydd yn gwasanaethu Cymru gyfan
|
Nod y prosiect yw cyflogi Swyddog Materion Gwleidyddol er mwyn sicrhau
bod proffil henoed yng Nghymru a'r materion sy'n bwysig iddynt
hwy yn cael eu codi yn y Cynulliad Cenedlaethol, y Senedd a'r Senedd
Ewropeaidd. Bydd yr arian yn talu am gostau cyflogi, costau cynnal cyffredinol,
deunydd gwybodaeth a hyrwyddo, costau teithio a hyfforddi ac offer swyddfa.
|
£135,298
|
|
Cymorth Cartrefu Cymru Cyf
|
Abertawe yn gwasanaethu Cymru gyfan
|
Nod y prosiect yw datblygu saith o ganolfannau cymunedol ledled Cymru
ar gyfer cynghori ynghylch tai i bobl ddigartref. Bydd y grant tair blynedd
yn talu cyflogau, rhent, a chostau teithio a chostau cynnal cyffredinol.
|
£517,547
|
| |
|
Cyfanswm ar gyfer Cymru gyfan: 7 Grant - £2,270,883.00
|