TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-






[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

BWRDD ELUSENNAU’R LOTERI GENEDLAETHOL

Gweithredu Cymunedol - 25 Mai 1999

Nyfer y grantiau: 11
Cyfanswm a ddyfarnwyd: £1,800,475

Sefydliad Lleoliad Swm Disgrifiad
Canolfan Gymuned David Hughes, Biwmares Biwmares £44,769 Nod y prosiect yw prynu offer ar gyfer neuadd a adnewyddwyd yn ddiweddar er mwyn darparu adnodd cymunedol gwerthfawr. Defnyddir y grant blwyddyn er mwyn darparu offer ar gyfer y ganolfan, talu cyflog gofalwr a thalu costau cynnal.
Clybiau Bechgyn a Merched Cymru Wedi ei leoli yng Nghaerdydd ar gyfer Gogledd Cymru gyfan £82,135 Bydd y prosiect yn datblygu gweithgareddau chwaraeon, addysg a chymdeithasol ar gyfer pobl ifanc yng Ngogledd Cymru. Bydd yr arian, dros dair blynedd, yn talu am gyflogi Swyddog Datblygu, rhent, offer swyddfa a threuliau cyffredinol.
Cymdeithas Abbeyfield (Sir Drefaldwyn) Cyf Y Drenewydd £41,032 Nod y prosiect yw i wella mynediad i adeilad y grw^p ar gyfer yr henoed a phobl anabl. Bydd y grant, dros flwyddyn, yn talu am adeiladu ac atgyweirio, gosod lifft, ffioedd proffesiynol a chostau hyfforddi.
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys Y Drenewydd £169,789 Bydd y prosiect yn gweithio gyda chymunedau gwledig a mudiadau gwirfoddol presennol o fewn Powys. Bydd yn eu cynorthwyo i ymateb yn fentrus i anghenion pobl yn eu cymunedau sydd yn ddifreintiedig oherwydd henaint, tlodi, anabledd neu salwch hir dymor. Def
Cymorth Lleol ar gyfer Plant ac Anghenion Arbennig Cymunedol West Cross, Abertawe £61,755 Fe fydd y prosiect yn datblygu gweithgareddau cymorth a hamdden newydd ar gyfer pobl ifanc gydag anableddau ac ymddygiad anodd. Bydd y grant tair blynedd yn talu cyflog swyddog datblygu ar gyfer y prosiect.
Grw^p Chwarae Commins Coch Commins Coch, ger Aberystwyth £33,847 Mae’r grw^p meithrin sefydlog hwn angen symud o ystafell ddosbarth yn yr ysgol gynradd ond nid oes adeilad addas arall yn y pentref gwledig hwn. Bydd y grant blwyddyn yn talu am adeilad newydd ar gyfer y grw^p.
Neuadd Bentref Mydroilyn Mydroilyn, Llanbedr £92,740 Bydd y prosiect dros flwyddyn yn talu am godi neuadd bentref newydd. Mae’r grant yn talu costau cyfalaf yr adeilad a ffioedd proffesiynol cysylltiol.
Pwyllgor Rheoli Neuadd Gymuned Sant Ioan Doc Penfro £115,613 Nod y prosiect yw i ddarparu mynediad i’r anabl a gwella cyfleusterau yng nghanolfan y grw^p a chyflogi Gweithiwr Datblygu Cymunedol er mwyn datblygu mentrau a gweithgareddau cymunedol. Defnyddir y grant, dros dair blynedd i osod lifft ar gyfer yr anabl,
Shaw Trust Ltd Wedi ei leoli yn Wiltshire ar gyfer De Cymru gyfan £526,173 Bydd y prosiect yn creu canolfan adnoddau aml-ddefnydd a fydd yn darparu gwasanaeth gwybodaeth ac offer arbenigol, cynllun byw yn annibynnol a chyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth. Bydd y prosiect yn cael ei redeg gan bobl anabl ar gyfer pobl anabl yn Ne Cy
The Weston Spirit Wedi ei leoli yng Nghaerdydd, yn gyfrifol am Ferthyr Tudful £181,883 Bydd y prosiect yn darparu canolfan hyfforddi Merthyr, lle y gellir cynorthwyo pobl ifanc a eithriwyd yn gymdeithasol i gyflawni eu potensial trwy gymryd rhan weithredol yn eu cymuned leol a chynyddu hunan hyder. Bydd yr arian, dros dair blynedd, yn darpa
Ymddiriedolaeth y Tywysog - Bro Wedi ei leoli yng Nghaerdydd ar gyfer Cymru gyfan £450,739 Bydd y consortiwm hwn o wyth o grwpiau yn cynorthwyo pobl ifanc er mwyn gosod sialensau ar gyfer y Mileniwm newydd. Bydd rhoi’r modd iddyn nhw i gyflawni y tasgau hyn yn caniatáu i 12,800 o bobl ifanc i sbarduno pobl ifanc i ennill sgiliau newydd, hyder a