| Sefydliad | Lleoliad | Swm | Disgrifiad |
| Canolfan Gymuned Maerdy | Maerdy | £66,140 | Bydd y prosiect dros dair blynedd yn darparu offer rhwydwaith gyfrifiadur ar gyfer y ganolfan gymuned ac yn talu am gyrsiau hyfforddi TG. Defnyddir yr arian i brynu offer rhwydwaith TG, recordydd sain/fideo digidol, i dalu am reolwr cyfrifiadurol a chosta |
| Cornel Chwarae Hendygwyn | Hendygwyn | £13,553 | Bydd y prosiect yn darparu offer ychwanegol ar gyfer man chwarae sydd yna eisoes gydag uned chwarae bwrpasol i fabanod a wyneb diogel. Bydd y grant blwyddyn yn talu am ddarparu a gosod offer a wyneb diogel. |
| Cyngor Camdrin Alcohol a Chyffuriau Gorllewin Morgannwg | Wedi ei leoli yn Abertawe yn gwasanaethu Castell Nedd Port Talbot | £329,082 | Bydd y prosiect yn darparu canolfan ymatal ar gyfer pobl gyda phroblemau alcohol a chyffuriau yng Nghastell Nedd a Phort Talbot. Defnyddir yr arian, dros dair blynedd, i brynu, adnewyddu a darparu offer ar gyfer adeilad, i dalu cyflogau, costau cyffredino |
| Cyngor Ffoaduriaid Cymru | Wedi ei leoli yng Nghaerdydd ond yn gwasanaethu Cymru gyfan | £169,635 | Bydd y prosiect yn darparu gwybodaeth ynglyn â chartrefi a hawliau lles ar gyfer ffoaduriaid a rhai sy’n ceisio lloches. Bydd yn galluogi y grwp diymgeledd hwn i ddod yn rhan o gymunedau lleol, ac yn sicrhau nad ydynt yn dioddef caledi. Bydd y grant tair |
| Cynllun Gofalwr Crossroads Ynys Môn | Llangefni | £105,816 | Nod y prosiect yw i gynnal ac ymestyn y gwasanaeth presennol sydd yn darparu ysbaid hyblyg a dibynadwy ar gyfer gofalwyr a phobl ag anghenion gofal sy’n byw gartref. Bydd y prosiect yn cynyddu y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan y grwp o ryw 30 y cant |
| Gofal Henoed Sir Drefaldwyn | Y Drenewydd | £89,240 | Bydd y prosiect yn datblygu gallu Gofal Henoed Sir Drefaldwyn i ymateb i anghenion yr henoed. Bydd y grant tair blynedd yn talu cyflogau un staff llawn amser ac un rhan amser, rhent, costau cynnal a defnyddiau hyrwyddo. |
| Gwasanaeth Gwella’r Cartref Ferndale (gyda Shelter Cyf) | Rhondda | £113,280 | Nod y prosiect yw i barhau â’r gwasanaeth trwsio bychan a sefydlwyd ar gyfer cartrefi’r henoed yng nghwm Rhondda. Bydd y grant yn talu costau staff un peintiwr/addurnwr ac adeiladwr cyffredinol llawn amser, a chynorthwy-ydd clerigol rhan amser. |
| Hyrwyddo Lleyg Cyfyngedig | Treforus, Abertawe | £167,646 | Mae’r grwp yn gweithio gyda phobl sy’n dioddef o anawsterau iechyd meddwl, anawsterau dysgu, ac anabledd corfforol a synhwyrol. Nod y prosiect yw i ddatblygu y gwasanaeth presennol i roi cyngor, hyrwyddo a chymorth ynglyn â diwygiadau lles sy’n effeithio |
| Ieuenctid Tysul | Llandysul | £121,674 | Er mwyn datblygu canolfan ieuenctid llawn amser ar gyfer pobl ifanc abl ac anabl rhwng 10-25 oed. Defnyddir y grant tair blynedd er mwyn talu cyflogau, cynnal y ganolfan, hyfforddi staff a gwirfoddolwyr a chostau teithio. |
| Prosiect Ieuenctid Aberteifi | Aberteifi | £122,539 | Bydd y prosiect yn datblygu gwasanaethau presennol gan ganiatáu i bobl ifanc yn Aberteifi i gael mynediad ychwanegol i addysg a hyfforddiant. Bydd y prosiect newydd yn cynnwys gwasanaeth maes, gwasanaeth noddi, menter hyfforddiant busnes, a fforwm a rhwyd |