| Sefydliad | Lleoliad | Disgrifiad | Swm |
| Cymuned Wallich Clifford | Caerdydd | Bydd y prosiect yn datblygu'r gwasanaeth "Taskforce" sydd yn recriwtio pobl ddigartref, gan ddysgu sgiliau gwaith gwerthfawr iddynt tra'n helpu i adnewyddu adeiladau elusennau yng Nghaerdydd. Bydd yr arian, dros dair blynedd, yn talu am ddau weithiwr llaw | £163,356 |
| Radio Bronglais | Aberystwyth | Bydd y prosiect yn darparu stiwdio recordio a darlledu bwrpasol ar gyfer Ysbyty Bronglais. Bydd yr arian, dros dair blynedd, yn talu am godi adeilad, am ffïoedd proffesiynol a chostau refeniw cyffredinol. | £116,455 |
| Canolfan Gynghori De Sir Ddinbych | Rhuthun | Bydd y prosiect yn datblygu gwasanaeth cynghori ar y ffôn gan gysylltu tair swyddfa ranbarthol y Canolfannau Cynghori a fydd yn hwyluso'r defnydd o'u gwasanaeth. Bydd y gwasanaeth dwyieithog ar gael gyda'r nos ac ar ddydd Sadwrn ac fe fydd yn gwasanaethu | £95,956 |
| Cymdeithas Addysgiadol y Gweithwyr (Gogledd Cymru) | Yn gwasanaethu Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy o Fangor | Bydd y prosiect yn darparu rhaglen hyfforddi wedi ei llunio ar gyfer gwirfoddolwyr yn gweithredu gyda grwpiau cymunedol yng Ngogledd Cymru. Bydd y grant blwyddyn yn talu am gyflogi gweithiwr datblygu rhan-amser, ffïoedd ar gyfer gweithwyr annibynnol, hyff | £16,956 |
| Canolfan Gymunedol Bridges | Mynwy | Nod y prosiect yw adnewyddu adeiladau ar brydles er mwyn darparu cyfleusterau newydd, rhagor o weithgareddau a chefnogaeth i ddatblygu grwpiau newydd. Bydd y grant, dros flwyddyn, yn cael ei roi tuag at gostau adnewyddu ac adeiladu a ffïoedd proffesiynol. | £188,049 |
| Pwyllgor Sefydliad Tre Ioan | Tre Ioan | Bydd y prosiect yn cael gwared â ffenestri wedi pydru mewn neuadd bentref. Bydd y grant blwyddyn yn talu am gost newid y ffenestri gan ddarparu amodau sych a chyfforddus ar gyfer defnyddwyr y neuadd. | £2,065 |
| Neuadd Bentref Llanfair Llythyfnwg | Llanfair Llythyfnwg | Nod y prosiect yw ymestyn ac adnewyddu'r neuadd i ddarparu ystafelloedd cyfarfod a storio ychwanegol a gwell cyfleusterau. Bydd y grant, dros flwyddyn, yn cael ei roi tuag at adeiladu estyniad, adnewyddu'r adeilad presennol a ffïoedd proffesiynol. | £137,271 |
| Neuadd Goffa Llansilin | Llansilin | Nod y prosiect yw darparu rhagor o le storio a chyfleusterau a gwella'r fynedfa i'r adeilad. Mae'r grant, dros flwyddyn, ar gyfer costau adnewyddu ac adeiladu a ffïoedd proffesiynol. | £55,484 |
| Cynhaliaeth i Ddioddefwyr Powys | Llandrindod | Bydd y prosiect yn darparu gwasanaeth cefnogol i dystion mewn llysoedd lleol ledled Powys. Bydd y grant dros dair blynedd yn talu am gostau cyflogi dau gydlynydd rhan-amser ac un gweinyddwr rhan-amser yn ogystal â chostau offer swyddfa, costau cynnal a ch | £133,704 |
| YMCA Aberpennar | Aberpennar | Bydd y prosiect yn datblygu gweithgareddau newydd drwy sefydlu cronfa o offer gwersylla ar gyfer grwpiau oddi fewn i'r YMCA ac ar gyfer grwpiau eraill yn yr ardal. Bydd y grant dros dair blynedd yn talu am offer gwersylla. | £17,606 |
| Cynllun Ceir Cymunedol Pontarddulais | Pontarddulais | Mae angen dau gerbyd newydd er mwyn cynnal gwasanaeth cludiant cymunedol prysur ar gyfer yr henoed a'r rhai rhannol anabl yn yr ardal. Bydd y grant yn talu am ddau gar stad. | £28,092 |
| 'Relate', Abertawe a'r Cylch | Abertawe | Prosiect wedi ei leoli yn y gymuned ydyw er mwyn hyfforddi, addysgu a chefnogi gwirfoddolwyr gyda sgiliau cynghori a sefydlu gwasanaeth cynghori. Bydd y grant, dros dair blynedd, yn cael ei roi tuag at ariannu un swydd lawn-amser, dwy swydd ran-amser, ffï | £80,510 |
| Cynllun Gofalwyr Croesffordd Penarth a'r Fro (EMI) Cyf | Penarth | Bydd y prosiect yn darparu cefnogaeth ar gyfer gofalwyr, ac yn sefydlu a chynnal grwpiau cefnogaeth a gwasanaethau cyngor gofalwyr, ar gyfer teuluoedd yng ngorllewin ardal Bro Morgannwg. Bydd y grant dros dair blynedd yn talu am gyflogi tri gofalwr rhan-a | £132,921 |
| Neuadd Goffa Pendeulwyn | Pendeulwyn | Bydd y prosiect yn adnewyddu’r neuadd goffa. Bydd y grant blwyddyn yn cael ei ddefnyddio i newid y gorchudd presennol sydd ar y to a'r muriau am orchudd dur. | £13,919 |
| Cyngor yr Henoed Cymru | Treganna, Caerdydd | Bydd y prosiect yn datblygu basdata a fydd yn cofnodi gwybodaeth yn ymwneud â phobl hyn a'u gofalwyr. Bydd y basdata yn cael ei gynnal gan y deng mudiad Cyngor Henoed sy'n cymryd rhan yng Nghymru. Bydd y wybodaeth hon yn galluogi'r Cyngor Henoed i fod yn | £151,874 |