Gweithredu Cymunedol a Tlodi a Difreintedd TEXT ONLY SITE - National Lottery Charities Board
-[Am ein grantiau]--[Newyddion]--[Ceisiadau & Chyhoeddiadou]--[Cronfa ddata o grantiau]--[Gwledydd a Rhanbarthau]-






[Gwybodaeth gyffredinol]
[Y wasg]
[Cyswllt]
[Cysylltiadau]
[Help]
[Yn ôl]

Gweithredu Cymunedol a Tlodi a Difreintedd

4 Awst 2000

Nifer y grantiau: 27

Cyfanswm y grantiau: �3,803,134

Sefydliad

Lleoliad

Disgrifiad

Swm

Penybont

'People First' Penybont

Penybont

Nod y prosiect yw cynnal rhaglen hyfforddi mewn ysgolion lleol i hyrwyddo ymwybyddiaeth o anabledd. Bydd y grant, am dair blynedd, yn talu am offer swyddfa, cyflog dau aelod o staff a chostau rhedeg.

�83,156

   

Cyfanswm ar gyfer 1 Grant Penybont - �83,156.00

Blaenau Gwent

Cymdeithas Gymunedol Glenside

Cwmbran

Nod y prosiect yw trefnu gwibdeithiau ac adloniant er mwyn galluogi'r trigolion i gymdeithasu'n rheolaidd. Bydd y grant blwyddyn yn talu am gostau adloniant a chludiant.

�1,800

   

Cyfanswm ar gyfer 1 Grant Blaenau Gwent - �1,800.00

Sir Gaerfyrddin

Menter Cwm Aman

Rhydaman

Nod y prosiect yw ymestyn ac adnewyddu adeilad cymunedol er mwyn cynyddu maint y mudiad fel bod sgiliau a gwasanaethau ar gael yn haws i unigolion a grwpiau. Bydd y grant blwyddyn yn talu am waith adeiladu a ff�oedd proffesiynol. �240,000

Gwasanaeth Cynghori Alcohol a Chyffuriau Canolbarth a Gorllewin Cymru

Caerfyrddin

Nod y prosiect yw cynyddu cyfraniad gwirfoddolwyr fel bod gwybodaeth a gwasanaethau ar gael yn haws i bobl a chanddynt broblemau'n ymwneud � chyffuriau neu alcohol. Bydd y grant, dros dair blynedd, yn talu am gyflogi pedwar aelod o staff, ac yn talu costau teithio a hyfforddi a chostau rhedeg cyffredinol. �143,027
   

Cyfanswm ar gyfer 2 Grant Sir Gaerfyrddin - �383,027.00

Ceredigion

'Tukes'

Aberystwyth

Nod y prosiect yw darparu cefnogaeth, hyfforddiant ac adferiad i bobl rhwng 16 a 65 mlwydd oed sydd yn dioddef gan effaith ymddygiad ddibynnol ynghlwm wrth faterion iechyd meddwl yn hytrach na materion yn ymwneud ag alcohol neu gyffuriau. Bydd y grant, dros ddwy flynedd, yn cyfrannu at gyflogau tri gweithiwr. �117,816

'Action for Mental Health' Gorllewin Cymru

Llanbedr Pont

Nod y prosiect yw cynghori, cefnogi a hyfforddi'r mudiad a grwpiau cymunedol er mwyn datblygu'r defnydd a wn�nt o dechnoleg gwybodaeth a fydd yn arwain at ddatblygu rhwydweithiau effeithiol ledled Gorlllewin Cymru a thu hwnt. Bydd y grant dwy flynedd yn cyfrannu at gyflog Swyddog Datblygu, a chostau rhedeg, teithio a hyfforddi. �34,934
   

Cyfanswm ar gyfer 2 Grant Ceredigion - �152,750.00

Sir Ddinbych

'Mind' Dyffryn Clwyd

Y Rhyl

Nod y prosiect yw cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i bobl a chanddynt broblemau iechyd meddwl, yn arbennig i rai mewn ardaloedd gwledig, trwy recriwtio cymwynaswyr gwirfoddol yn y gymuned leol. Bydd y grant tair blynedd yn talu am waith adnewyddu ac offer swyddfa, cyflog rheolwr prosiect, costau rhedeg a chostau teithio. �177,259
   

Cyfanswm ar gyfer 1 Grant Sir Ddinbych - �177,259.00-

Sir y Fflint

'Youth Action' Sir y Fflint

Yr Wyddgrug

Nod y prosiect yw cynnig amrywiaeth eang o gyfleon gwirfoddoli a gweithgareddau i bobl ifanc yn Sir y Fflint er budd iddynt hwy eu hunain a'u cymunedau. Bydd yr arian, dros dair blynedd, yn talu am gostau cyflogi un gweithiwr llawn amser a phedwar gweithiwr rhan amser, ff�oedd gweithwyr annibynnol, a chostau rhedeg y prosiect. �183,438
   

Cyfanswm ar gyfer 1 Grant Sir y Fflint - �183,438.00

Gwynedd

Y Cwch Gwenyn Cyf

Bangor

Nod y prosiect yw galluogi'r mudiad i ddatblygu ymhellach ac ehangu ar eu gweithgareddau pyped/animeiddio. Y nod yw datblygu rhaglen unigryw er mwyn atal neu leihau tlodi yn y dyfodol trwy ddatblygu hunan-hyder ac agwedd bositif ymysg pobl ifanc tuag at ddysgu a gweithio. Bydd y grant tair blynedd yn talu am ddau gyflog rhan amser, costau recriwtio, costau rhedeg, cost cynhyrchu gwybodaeth, a chostau teithio a hyfforddi. �96,200

Pwyllgor Rheoli Neuadd Dyfi

Aberdyfi

Nod y prosiect yw darparu mynedfa i'r llwyfan ar gyfer yr anabl a system ddolen anwythol ar gyfer pobl � nam ar eu clyw yn y neuadd gymunedol. Bydd y grant blwyddyn yn talu am fewnosod lifft cadair olwyn a system ddolen anwythol. �13,202
   
Cyfanswm ar gyfer 2 Grant Gwynedd - �109,402.00

Castell Nedd Port Talbot

Canolfan Gynghori Castell Nedd a'r Cylch

Castell Nedd

Nod y prosiect yw parhau �'r gwasanaeth allanol yng Nglyn-nedd a datblygu gwasanaeth newydd yng Ngwaun-Cae-Gurwen yn cynnig cyngor a chefnogaeth ac yn annog pobl leol i fod yn gynghorwyr gwirfoddol. Bydd y grant, dros dair blynedd yn talu am offer swyddfa, cyflog gweithiwr llawn amser a dau weithiwr rhan amser, costau recriwtio, rhent, costau rhedeg a chostau hyfforddi. �127,878
Adfywio Cynaliadwy New Sanfield Cyf

Port Talbot

Nod y prosiect yw adfywio st�d Sandfields er budd y gymuned. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys cynllun cludiant cymunedol, cynllun diogelwch, caffi ieuenctid, fforwm i rai dros 60, papur newydd cymunedol a menter adfywio glan y m�r. Bydd y grant, dros dair blynedd, yn talu am gyflogi Cyfarwyddwr a Chynorthwy-ydd Gweinyddol, a chostau cynhyrchu cylchlythyr a hyfforddi. �166,098
   
Cyfanswm ar gyfer 2 Grant Castell Nedd Port Talbot - �293,976.00

Sir Benfro

Croesffordd Sir Benfro Cyf Aberdaugleddau Bydd y prosiect yn parhau �'r prosiect gofal nos presennol gan ei ddatblygu a'i ymestyn. Bydd y grant dwy flynedd yn talu am gyflogau, costau hyfforddi, rhent, a chostau rhedeg, teithio a hyfforddi. �118,620
   
Cyfanswm ar gyfer 1 Grant Sir Benfro - �118,620.00

Powys

Cymdeithas Chwarae Y Drenewydd (NPA)

Y Drenewydd

Nod y prosiect yw datblygu ac atgyfnerthu gwaith mudiad sy'n trefnu gweithgareddau chwarae i blant dan anfantais. Bydd y grant dwy flynedd yn talu am brynu cerbyd, cyflogi gweithiwr rhan amser a chostau rhedeg y mudiad. �69,172
Cynllun Chwarae a Grwp Cymunedol Llansilin

Llansilin

Nod y prosiect yw datblygu'r ddarpariaeth i'r ifanc a threfnu rhaglen weithgareddau. Bydd y grant dros dair blynedd yn cwrdd � chost prynu offer swyddfa, ff�oedd gweithwyr annibynnol, rhent, costau rhedeg cyffredinol, cost cynhyrchu gwybodaeth, a chostau teithio a hyfforddi i staff a gwirfoddolwyr. �101,547
Pwyllgor Neuadd Gymunedol Maescar

Sennybridge

Nod y prosiect yw darparu neuadd bentref ar gyfer y gymuned leol. Bydd y grant, dros dair blynedd, yn talu am gostau meddiant tir a gwaith adeiladu, ff�oedd proffesiynol a chostau rhedeg cyffredinol. �371,262
Prosiect Cefnogi Maesyfed Cyf

Llandrindod

Nod y prosiect yw cynnig profiad gwaith a chyfleon gwaith i bobl a chanddynt anhawsterau dysgu trwy sefydlu gwasanaeth cynnal a chadw gerddi, meithrinfa goed a phrosiectau garddwrol eraill. Bydd y grant tair blynedd yn talu am gyflogi pum gweithiwr rhan amser a thri llawn amser, costau adeiladu ac adnewyddu, cerbyd, offer a chostau rhedeg. �380,167
   

Cyfanswm ar gyfer 4 Grant Powys - �922,148.00

Rhondda Cynon Taf

Canolfan Gymunedol Cwm Clydach

Tonypandy, Y Rhondda

Nod y prosiect yw troi rhan o'r ganolfan gymunedol yn gaffi cymunedol, mewnosod lifft, ymestyn yr adeilad er mwyn ehangu'r feithrinfa, a chael mwy o le yn y neuadd ar gyfer grwpiau mawr. Bydd y grant, dros dair blynedd, yn talu costau adeiladu ac adnewyddu, ff�oedd proffesiynol, ac yn talu am offer a dodrefn ar gyfer y caffi. �177,830
'Care & Repair' Y Rhondda

Glyn Rhedynog, Y Rhondda

Nod y prosiect yw cyflogi Swyddog Cyswllt i hyrwyddo cyd-weithio rhwng tair asiantaeth gofal a chadw er mwyn iddynt fedru cynnig gwasanaeth mwy effeithiol yn yr ardal. Bydd y grant dwy flynedd yn cyfrannu at un cyflog rhan amser, costau recriwtio, costau teithio, gwaith cyfieithu a chostau rhedeg eraill. �16,904
   
Cyfanswm ar gyfer 2 Grant Rhondda, Cynon, Taf - �194,734.00

Abertawe

Neuadd Blwyf Llangennith

Llangennith, Abertawe

Nod y prosiect yw cwblhau gwaith adnewyddu a gosod offer mewn neuadd, darparu amrywiaeth eang o weithgareddau a rhaglenni hyfforddi ar gyfer trigolion y gymuned. Bydd y grant, am dair blynedd, yn talu am adeiladu cyfleusterau i'r anabl, mewnosod gwresogyddion, ff�oedd proffesiynol, offer TG, cerbyd, unedau ac offer cegin, dodrefn, offer llwyfan, cyflog dau weithiwr rhan amser, costau rhedeg, costau hyfforddi a chostau rhedeg cerbyd. �273,765
Fforwm Gorllewin Morgannwg

Abertawe

Nod y prosiect yw datblygu gwasanaeth adfocatiaeth i bobl a chanddynt anhawsterau dysgu trwy sefydlu grwpiau cefnogi newydd, ymestyn y gwasanaeth mewn ardaloedd gwledig diarffordd a chynnig hyfforddiant i wirfoddolwyr. Bydd yr arian, dros ddwy flynedd, yn talu am waith adnewyddu, offer swyddfa, cyflogau pedwar gweithiwr llawn amser a phum rhan amser, costau recriwtio, ff�oedd gweithwyr annibynnol, rhent, costau rhedeg cyffredinol, hyfforddiant, costau teithio a deunydd hyrwyddo. �322,595
   

Cyfanswm ar gyfer 2 Grant Abertawe - �596,360.00

Bro Morgannwg

Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Bro Morgannwg

Y Bari

Nod y prosiect yw comisiynu a chyhoeddi ymchwil yn ymwneud ag elwa cymunedol gan weithio gyda grwpiau cymunedol lleol a chanddynt ddiddordeb mewn materion yn ymwneud ag anabledd, ynysiad gwledig a hil. Yn ogystal, bydd yn datblygu rhaglen hyfforddi ac yn ariannu gwasanaeth gwybodaeth er mwyn ymestyn grwpiau cymunedol/gwirfoddol lleol yn y sir. Bydd y grant blwyddyn yn talu am offer cyfalaf, cyflogau, rhent, costau rhedeg, cynhyrchu gwybodaeth, costau teithio a hyfforddi. �78,627
   

Cyfanswm ar gyfer 1 Grant Bro Morgannwg - �78,627.00

Torfaen

Cymorth i Ferched Torfaen Torfaen Nod y prosiect yw paratoi r�l pwysig i wirfoddolwyr a datblygu dulliau recriwtio, dethol a hyfforddi addas er mwyn annog gwirfoddoli i gryfhau gwasanaethau. Bydd y grant, am dair blynedd, yn talu am gyflog gweithiwr llawn amser, costau recriwtio, costau gwybodaeth a hyrwyddo, a chostau teithio a hyfforddi ar gyfer staff a gwirfoddolwyr. �95,507
   

Cyfanswm ar gyfer 1 Grant Torfaen - �95,507

Cymru gyfan

Ymddiriedolaeth Gwyliau Glan y M�r Harriet Davis i Blant Anabl

Wedi ei leoli yng Nghrughywel

Nod y prosiect yw darparu cyfleuster gwyliau pwrpasol i'w ddefnyddio trwy'r flwyddyn gan deuluoedd a gofalwyr plant anabl. Bydd y grant, am flwyddyn, yn talu am adeiladu a darparu offer ar gyfer cyfleuster gwyliau pwrpasol. �244,759

Ffederasiwn Genedlaethol Sefydliad y Merched

Caerdydd

Nod y prosiect yw hyfforddi dau gynrychiolydd o bob un o'r chwe ffederasiwn yng Nghymru er mwyn trefnu gweithgareddau addysgol a chymunedol dwyieithog. Bydd y cynrychiolwyr yn trosglwyddo'r hyfforddiant i eraill oddi mewn i'w ffederasiwn hwy gan eu galluogi i feithrin hyder a sgiliau wrth drefnu gweithgareddau dwyieithog a fydd hefyd yn cryfhau integreiddio cymdeithasol a chymunedol. Bydd y grant, am flwyddyn, yn talu am gostau teithio a hyfforddi staff a gwirfoddolwyr. �5,350
'The Treasure Trove Residential and Education Project'

Wedi ei leoli yn Y Bari

Nod y prosiect yw trefnu cwrs preswyl wythnos blynyddol yng Ngholeg yr Iwerydd, Caerdydd ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed sy'n gymdeithasol ddifreintiedig. Bydd y grant, am dair blynedd, yn talu am logi safle, cost y rhaglen weithgareddau a chostau cyffredinol eraill. �29,410
   

Cyfanswm ar gyfer 3 Grant Cymru gyfan - �279,519.00

Wrecsam

'Home Start' Cyngor Bwrdeistref Wrecsam Wrecsam Nod y prosiect yw datblygu strategaeth er mwyn sicrhau datblygiad a chynaliadwyedd ariannol 'Home Start' Cyngor Bwrdeistref Wrecsam a 'Family Friends of 5 to 11s'. Bydd y grant tair blynedd yn talu am offer swyddfa, cyflogau, ff�oedd gweithwyr annibynnol, rhent, costau rhedeg cyffredinol, cynhyrchu gwybodaeth, hyfforddiant ar gyfer staff a gwirfoddolwyr a chostau teithio. �132,811
   

Cyfanswm ar gyfer 1 Grant Wrecsam - �132,811.00