| Sefydliad | Lleoliad | Disgrifiad | Swm |
| Cychwyn-Cartref Cymoedd Penybont / Bridgend Valleys Home-Start | Pontycymer, Penybont | Bydd y prosiect yn gwella y nifer o wasanaethau cynorthwyo teuluoedd sydd i’w cael yn yr ardal. Bydd y grant blwyddyn yn talu am offer ar gyfer swyddfa newydd y grw^p. | £6,155 |
| Cludiant Cymunedol Annibynnol Cyf | Caerffili | Bydd y prosiect yn darparu gwasanaeth cludiant ar gyfer teithwyr hy^n neu anabl i fannau lleol neu ranbarthol ac ar wyliau. Defnyddir y grant tair blynedd i dalu am gerbyd 33 sedd, un swydd llawn amser, costau recriwtio, costau rhedeg, teithio a chynhyrchu gwybodaeth. | £139, 795 |
| Yr Eglwys yng Nghymru, Plwyf Bedwas PCC | Trethomas | Nod y prosiect yw chwalu ac ailadeiladu neuadd eglwys a gondemniwyd at ddefnydd yr hen ardal lofaol hon. Bydd y grant blwyddyn yn talu am godi a phrynu offer ar gyfer y neuadd. | £204,611 |
| Gweithredu Caerdydd ar ran y Digartref Sengl / Cardiff Action | Caerdydd | Mae’r prosiect yn cynnig cyfleoedd i bobl ddigartref i ddatblygu sgiliau unigol a hunan hyder. Mae’r rhaglen yn cynnig ystod eang o wasanaethau yn cynnwys addysg, hyfforddiant sgiliau personol a gweithgareddau hamdden. Bydd y grant tair blynedd yn talu cyflogau ac am hyfforddiant ar gyfer tri gweithiwr llawn amser. | £161, 988 |
| Canolfannau Datblygu Cymunedol De Riverside | Caerdydd | Nod y prosiect yw i ddarparu gwasanaeth cynghori cyffredinol annibynnol. Bydd y grant dros dair blynedd yn talu costau adnewyddu ac am offer swyddfa, cyflogau, costau recriwtio, gweithiwr hunan gyflogedig, costau cynnal cyffredinol, cynhyrchu gwybodaeth, a chostau teithio a hyfforddiant. | £291,588 |
| Cyswllt Ceredigion | Aberystwyth | Bydd y prosiect yn sefydlu gwasanaeth maes llawn-amser yn Llanbedr yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr yngly^n â cham-drin toddyddion ac ymddygiad caethiwus, gan gynnwys llinell gymorth, ymweliadau cartref a chynghori. Bydd y grant tair blynedd yn talu cyflogau, rhent, hyfforddi staff a gwirfoddolwyr a chostau teithio. | £197,047 |
| HYPE (Gobaith i bobl ifanc ym mhobman) | Aberystwyth | Nod y prosiect yw i ddarparu gwasanaeth maes ac adfocatiaeth ar gyfer pobl ifanc sydd angen cartrefi a chymorth. Defnyddir y grant dros dair blynedd i dalu cyflog gweithiwr prosiect llawn amser a chostau recriwtio. | £40,248 |
| Neuadd Goffa Llwyncelyn | Llwyncelyn, Aberaeron | Bydd y prosiect, dros flwyddyn, yn dymchwel y neuadd bresennol ac yn codi canolfan fodern i’r gymuned yn ei lle. | £231,385 |
| Cymdeithas Gymuned Neuadd Goffa Penparcau | Penparcau, Aberystwyth | Bydd y prosiect yn gwella ac yn ymestyn y Neuadd Goffa bresennol at ddefnydd amrywiaeth o grwpiau cymunedol a galluogi mynediad llawn i’r neuadd. Bydd y grant blwyddyn yn talu am ffioedd adeiladau a phroffesiynol ac am offer swyddfa. | £192,747 |
| Neuadd Penrhiwllan | Penrhiwllan, Llandysul | Nod y prosiect yw i wneud gwaith adnewyddu ar y neuadd a’r tir. Defnyddir y grant dros flwyddyn i osod llawr newydd yn y neuadd, tarmac ar yr iard y tu allan ac i godi mur o amgylch. | £39,642 |
| Neuadd Santes Ursula, Llangwyryfon | Llangwyryfon, Aberystwyth | Nod y prosiect yw i adnewyddu, ymestyn a gwella mynediad i’r ganolfan gymunedol. Defnyddir yr arian dros flwyddyn ar gyfer costau adeiladu, ffioedd proffesiynol, dodrefn, offer a chostau cynnal cyffredinol. | £189,316 |
| Neuadd Bentref Pontgarreg | Pontgarreg, Llangrannog | Bydd y prosiect dros flwyddyn yn diweddaru ac yn ymestyn y neuadd bentref at ddefnydd y gymuned. | £228,938 |
| Canolfan Dewi Sant | Eryrys, Yr Wyddgrug | Bydd y prosiect yn darparu cyfleusterau yn y gymuned ar gyfer hyfforddiant cyfrifiadurol a sgiliau gwaith, mynediad i’r rhyngrwyd, gweithgareddau drama a chymdeithasol eraill. Bydd y grant blwyddyn yn talu am offer cyfrifiadurol a llwyfan y gellir ei ddatgymalu. | £17,538 |
| Cymdeithas Neuadd yr Urdd Dyserth | Dyserth | Bydd y prosiect yn adnewyddu ac ailadeiladu yr hen Neuadd yr Urdd, gan roi defnydd newydd iddo gyda gwell cyfleusterau. Bydd y grant dros dair blynedd yn talu am y gwaith adeiladu ac adnewyddu, ffioedd proffesiynol, dodrefn swyddfa a chyfrifiaduron. | £465,759 |
| Cymorth i Ferched Bangor a’r Cylch | Bangor | Bydd y prosiect yn datblygu ac yn ymestyn y gwasanaeth maes presennol, gan gynnal y cymorth ymarferol sy’n cael ei gynnig i wragedd a phlant, drwy staffio y ganolfan alw-heibio presennol, agor canolfan yn y wlad a pharhau i gynyddu ymwybyddiaeth o drais yn y cartref. Bydd hyn yn arwain at ragor o grwpiau merched a grwpiau hunan-gymorth ac yn datblygu y cymorth arbenigol a gynigir i blant. Bydd y grant dwy flynedd yn talu cyflogau, costau recriwtio, cynhyrchu gwybodaeth, offer swyddfa, rhent, costau cynnal, hyfforddiant a theithio. | £130,365 |
| Neuadd Goffa Sarn | Sarn, Pwllheli | Nod y prosiect yw codi neuadd bentref newydd yn y gymuned anghysbell hon ar Benrhyn Llyn. Bydd y grant blwyddyn yn talu am osodiadau a chelfi mewnol ar gyfer y neuadd newydd. | £75,990 |
| ‘Mind’ Merthyr a’r Cymoedd | Merthyr Tudful | Nod y prosiect yw ymestyn y gwasanaeth adfocatiaeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl a sefydlwyd eisoes gan MIND yn Merthyr trwy gynnal y gwasanaeth yn Ysbyty St Tudful a sefydlu gwasanaeth pellach yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg. Byddent hefyd yn ymestyn eu sesiynau adfocatiaeth yn y gymuned ac yn recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr newydd. Bydd y grant dros ddwy flynedd yn talu am ddwy swydd gyfredol, un swydd newydd, treuliau cyffredinol a chostau hyfforddiant a theithio. | £173,831 |
| Clwb Gweithgaredd Anghenion Arbennig | Port Talbot | Bydd y prosiect yn darparu canolfan weithgareddau pwrpasol yn cynnig rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer plant ag anghenion arbennig a’u teuluoedd. Bydd hefyd yn datblygu y grw^p cefnogi rhieni presennol a sefydlu grw^p cefnogi brodyr a chwiorydd. Bydd y grant tair blynedd yn talu costau adeiladu, ffioedd proffesiynol, offer, cyflogau, treuliau, ymgynghoriad hyfforddi a chostau teithio. | £243,719 |
| Cyswllt Cymuned Dyffryn | Dyffryn | Bydd y prosiect datblygu cymunedol hwn yn cynorthwyo pobl leol trwy chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o adfer yr ardal mewn partneriaeth ac asiantaethau allweddol eraill. Bydd y grant tair blynedd yn talu cyflogau un gweithiwr llawn amser ac un rhan amser, rhent, costau cynnal a defnyddiau gwybodaeth a hyrwyddo. | £99,136 |
| Cymdeithas Cymunedol a Ieuenctid Aberriw | Aberriw | Nod y prosiect yw i adnewyddu, ymestyn a gwella mynediad i ganolfan cymunedol a darparu safle amlbwrpas ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau. Bydd yr arian yn cyfrannu tuag at waith adeiladu ac adnewyddu. | £27,489 |
| Adfocatiaeth Dinasyddion Aberhonddu – Pobl mewn Partneriaeth | Aberhonddu | Nod y prosiect yw i ymestyn y gwasanaeth adfocatiaeth gwirfoddol presennol sydd ar gael i bobl yn y sir gydag anawsterau dysgu. Bydd y grant dwy flynedd yn talu cyflogau cydlynydd gwirfoddolwyr a chymorth gweinyddol ynghyd â chostau cynnal swyddfa ar gyfer y mudiad. | £59,390 |
| Cronfa Ymddiriedolaeth Neuadd Henderson | Talybont-ar-Wysg | Bydd y prosiect yn moderneiddio y neuadd bentref gan ddarparu gwell adnoddau ar gyfer y gymuned a mynediad i bobl anabl. Bydd y grant blwyddyn yn talu am y gwaith adnewyddu a ffioedd proffesiynol. | £85,311 |
| Pwyllgor Hamdden Leighton | Trer-llai | Bydd y prosiect yn darparu cyfleusterau chwarae i alluogi plant, rhieni, neiniau a theidiau ac ymwelwyr i gael maes chwarae canolog er mwyn cyfarfod a chwarae. Defnyddir y grant dros dair blynedd i brynu a chodi offer maes chwarae. | £27,173 |
| Canolfan Gymunedol Coed Elai | Coed Elai, Tonyrefail | Bydd y prosiect yn darparu canolfan gymunedol ar gyfer y trigolion lleol. Bydd y grant blwyddyn yn talu am yr adeilad newydd, ffioedd proffesiynol ac offer. | £335,921 |
| Grw^p Cefnogi Gwirfoddolwyr | Pontypridd | Bydd cerbyd newydd un sedd ar bymtheg wedi ei addasu yn arbennig yn darparu gwasanaeth cludiant ychwanegol ar gyfer yr anabl. Bydd y grant blwyddyn yn cael ei ddefnyddio i brynu bws mini. | £43,466 |
| Urdd Sant Ioan | Pontarddulais | Nod y prosiect yw i ddymchwel ac ailadeiladu neuadd at ddefnydd Ambiwlans Sant Ioan a grwpiau cymunedol eraill. Bydd y grant dros flwyddyn yn cyfrannu tuag at gostau codi adeilad a ffioedd proffesiynol. | £233,942 |
| Cymdeithas Gymunedol Pontnewydd | Pontnewydd, Pontypw^l | Nod y prosiect yw i wella y cyfleusterau mewn canolfan gymunedol ar gyfer y defnyddwyr presennol, a denu defnyddwyr newydd er mwyn hybu ymwneud â’r gymuned, a datblygiad ac adferiad cymunedol. Bydd y grant blwyddyn yn darparu gwell lle storio, llawr newydd, rhaniad symudol, toiledau ar gyfer pobl anabl, a thalu ffioedd proffesiynol cysylltiedig. | £28,371 |
| Partneriaeth Parc Caia | Wrecsam | Bydd y prosiect yn sefydlu ac yn cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl, gan roi rhan iddyn nhw ym mhob agwedd ar y Strategaeth Adferiad Cymunedol sy’n cael ei ddatblygu ar yr ystâd dai enfawr hyn sy’n dioddef o lefelau uchel o ddifreintedd. Bydd y grant tair blynedd yn talu cyflogau, teithio, ymgynghori a threuliau cyffredinol. | £79,276 |
| Partneriaeth Parc Caia | Wrecsam | Bydd y prosiect yn cyflogi Swyddog Datblygu Busnes a fydd yn gyfrifol am fentrau adfywio’r gymuned, gan ddatblygu cynlluniau codi incwm a chreu cynllun ariannu er mwyn sicrhau mentrau cymunedol y gellir eu cynnal dros y tymor hir. Bydd y grant yn talu cyflogau, costau recriwtio, treuliau, ymgynghori a theithio. | £94,097 |
| Cyfleoedd Cyflogaeth ar gyfer Pobl Anabl | Wedi ei leoli yng Nghaerdydd yn gwasanaethu y cyfan o Dde Cymru | Bydd y prosiect yn darparu cyngor ar gyfer pobl gydag anableddau er mwyn eu galluogi i chwilio am waith gyda hyder, a hefyd i gynyddu ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud ag anabledd ymhlith cyflogwyr gan danlinellu y manteision a ddaw o gyflogi pobl anabl. Bydd y grant dros dair blynedd yn talu am swyddfa, costau staff a chyhoeddusrwydd ar gyfer y prosiect a chostau cysylltiol eraill. | £146,898 |
| Cymrodoriaeth Iselder Gorffwyll - Cymru - Manic Depression Fellowship | Wedi ei leoli yng Nghas-newydd yn gwasanaethu Cymru gyfan | Bydd y prosiect yn darparu cymorth a chefnogaeth ar gyfer rhai sydd wedi cael eu cydnabod yn dioddef o iselder gorffwyll trwy sefydlu rhaglen hyfforddi i gynorthwyo pobl i reoli eu clefyd eu hun. Bydd y grant tair blynedd yn talu cyflog cydlynydd y rhaglen, costau hyfforddiant, costau cynnal a chost cynhyrchu gwybodaeth a defnyddiau addysgol. | £155,715 |
| Uned Pobl a Gwaith | Wedi ei leoli yn Y Fenni i wasanaethu y cyfan o Dde Cymru | Bydd y prosiect yn darparu gwersyll haf ar gyfer pobl dan anfantais economaidd a chymdeithasol rhwng 16-25 oed. Bydd y gwersyll yn rhoi cyfle iddyn nhw i feistroli sgiliau newydd a magu hyder. Bydd y grant, dros dair blynedd yn cyflogi gweinyddwr, talu gweithwyr achlysurol, a darparu hyfforddiant a thalu treuliau cyffredinol. | £119,898 |