| Sefydliad | Disgrifiad | Swm |
| Adnoddau Penybont a�r Cylch ar gyfer Plant ag Anableddau | I ddarparu canolfan adnoddau aml-bwrpas a chynnig cyfleusterau ar gyfer babanod a phlant bach gydag anableddau a�u teuluoedd mewn awyrgylch hamddenol a chyfforddus. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, ar gyfer atgyweirio, a phrynu offer swyddfa. | £101,818 |
| Agoriad Cyf | I drefnu cwrs hyfforddi sgiliau sylfaenol cyn-swydd ar gyfer pobl anabl fel y medrant gael mynediad i hyfforddiant gwaith ffurfiol, ac yn y pen draw, swydd gyflogedig. Defnyddir y grant blwyddyn i brynu cyfrifiaduron a meddalwedd. | £8,440 |
| Antur Dwyryd/Llyn Cyf | I sefydlu Canolfan Hyfforddi Datblygu Sgiliau ar sail cynllun peilot a arianwyd o dan y Cynllun ERDF. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i dalu cyflog un aelod o staff llawn amser ac un rhan amser, i gynhyrchu deunyddiau hyrwyddo, ac hyfforddiant. | £189,500 |
| Antur Teifi | I ddarparu hyfforddiant TG a chyffredinol, cyfleusterau cyfarfod ac arddangos ar grwpiau cymunedol ac unigolion yng nghefn gwlad gorllewin Cymru trwy gyfrwng uned symudol. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i dalu cyflogau staff. | £154,918 |
| Asiantaeth Gyflogi gyda Chymorth El�t Cyfyngedig | I ddarparu system o asesu arbenigol ar gyfer pobl gydag anhawsterau dysgu, ynghyd � chyngor/arweiniad, ymweliadau gwaith, gweithdai a rhagflas o waith. Defnyddir y grant tair blynedd i brynu offer swyddfa, ac i dalu cyflogau dau staff prosiect llawn amser | £138,578 |
| Biwro Cynghori Trigolion Caerfyrddin a�r Cylch | I ymestyn y cyfleon ar gyfer gwirfoddoli, i wella ansawdd hyfforddiant ac i gynyddu y cymorth sydd ar gael i wirfoddolwyr. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i dalu cyflog swyddog hyfforddi, i brynu offer swyddfa ac i dalu costau cynnal y prosiect. | £79,323 |
| Biwro Gwirfoddolwyr Y Drenewydd | I recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr ifanc i gynorthwyo gyda phrosiectau a fydd o les i�r anabl, yr henoed a�r bregus yn y gymuned. Bydd y grant, sydd dros dair blynedd, yn talu un cyflog, costau cynnal a hyfforddiant staff. | £32,213 |
| Cangen Llanelli o�r Gymdeithas Clefyd Siwgr Prydeinig | I wella golwg yr holl ddeunyddiau argraffedig er mwyn darparu ar gyfer mudiadau eraill yr holl wybodaeth sydd ar gael ar wahanol agweddau ar y clefyd siwgr. Defnyddir y grant tair blynedd i brynu cyfrifiadur, printer, a meddalwedd. | £3,058 |
| Canolfan Adnoddau Casnewydd | I gryfhau mudiadau gwirfoddol yng nghymunedau lleiafrifoedd ethnig Casnewydd trwy ganfod eu hanghenion datblygu a hyfforddi a thrwy ddarparu hyfforddiant. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i dalu tri chyflog, i gynhyrchu gwybodaeth ac i dalu costau. | £174,229 |
| Canolfan Adnoddau Gogledd Cymru ar gyfer Pobl Anabl | I ddarparu canolfan adnoddau arddangos a gwybodaeth ar gyfer mudiadau sy�n cynrychioli pobl gydag anableddau corfforol a/neu ddiffygion synhwyrol, gofalwyr, yr henoed a gweithwyr. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, ac i brynu offer swyddfa a gweithdy. | £160,311 |
| Canolfan Cynghori Addysg (ACE) Cyfyngedig | I ddatblygu rhwydwaith newydd o wasanaethau cynghori addysg ar draws Cymru ar gyfer rhieni, wedi ei dargedu yn arbennig tuag at y rhai hynny sydd yn ddifreintiedig neu o leiafrifoedd ethnig. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, ac i brynu offer swyddfa. | £150,485 |
| Canolfan Deuluol St Paul | I gyflogi staff ar gyfer y ganolfan a rhedeg rhaglen gyffrous o gyfleoedd cymdeithasol ac addysgol. Bydd y grant tair blynedd yn galluogi y grwp i gyflogi tri gweithiwr llawn amser a thri rhan amser i reoli y ganolfan. | £130,766 |
| Canolfan Felin Fach Cyfyngedig | I ymestyn cyfleusterau y ganolfan adnoddau a chymorth i grwpiau a mudiadau gwirfoddol, yn sg�l cynnydd yn y galw am wasanaethau�r Ganolfan. Defnyddir y grant blwyddyn i gynorthwyo gyda thalu am adeilad newydd a�i atgyweirio. | £52,000 |
| Canolfan Gydweithredol Cymuned Tseiniaidd Abertawe | I sefydlu canolfan gymunedol yng nghanol dinas Abertawe ar gyfer y gymuned Tseiniaidd. Bydd y grant tair blynedd yn galluogi y grwp i gyflogi rheolwr i�r ganolfan ynghyd � thalu costau wrth gefn a phrynu offer swyddfa. | £92,377 |
| Canolfan Gymdeithasol Rhosmeirch | I atgyweirio canolfan gymunedol y pentref i ateb anghenion mudiadau lleol. Bydd y gwaith yn cyfateb i ofynion iechyd a diogelwch ac yn darparu cyfleusterau ar gyfer pobl anabl. Bydd y grant blwyddyn yn talu am waith atgyweirio a thacluso a phrynu dodrefn. | £100,968 |
| Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown (BHAC) | I ddatblygu addewid addysgol a hyfforddi y Ganolfan, ac i wella ei hadnoddau er mwyn galluogi y grwp i ddarparu cyfleoedd ar gyfer trigolion lleol. Bydd y grant tair blynedd yn galluogi y grwp i gyflogi tri gweithiwr llawn amser. | £222,712 |
| Canolfan Iaith Clwyd | I ddarparu stafelloedd dosbarth a thiwtora ychwanegol i ateb anghenion dysgwyr o bell ac i ddatblygu cyrsiau bloc a phenwythnos a chyrsiau pecyn dysgu o bell. Defnyddir y grant, sydd dros dair blynedd, i adeiladu yr estyniad, ac i dalu cyflog un swydd rha | £187,300 |
| Canolfan Llanfairynghornwy | I atgyweirio neuadd bentref er lles mudiadau lleol. Defnyddir y grant blwyddyn i wneud gwaith atgyweirio, i brynu llwyfan newydd a defnyddiau. | £36,076 |
| Canolfan Wybodaeth �Catch Up� | I ddatblygu gwasanaethau a r�l �Catch Up� drwy gyflogi cydlynydd wedi ei leoli yn y swyddfa wybodaeth yn Llanelli. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i dalu cyflog cydlynydd gwirfoddolwyr llawn amser, i brynu offer swyddfa, ac i gynhyrchu gwybodaeth. | £59,580 |
| Canolfan Wyddoniaeth 2000 y Mwmbls | I lansio rhaglen o gynlluniau chwarae gwyddonol o ddydd Llun i ddydd Gwener bob wythnos yn ystod gwyliau�r ysgol. Defnyddir y grant, dros ddwy flynedd, i dalu cyflogau arweinydd y cynllun chwarae llawn amser a 12 o gynorthwywyr taliedig, ac i gynhyrchu gw | £96,545 |
| Canolfan y Teulu Y Gwalla | I godi canolfan gymuned newydd a darparu cyfleusterau cyfoes ar gyfer teuluoedd lleol. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i brynu adeilad newydd ac offer. | £106,046 |
| Chwarae Teg (Gweithlu) Cyfyngedig | I hybu ymwybyddiaeth o gyfleoedd dysgu a ffyrdd o gael gwaith ar gyfer merched yng Nghymru. Defnyddir y grant blwyddyn i dalu cyflog deg o aelodau staff rhan amser, i dalu ffioedd gweithwyr hunan-gyflogedig, i gynhyrchu gwybodaeth ac i dalu costau rhedeg. | £75,173 |
| Cludiant Cymunedol Gorllewin Morgannwg | I ddarparu bws mini newydd i alluogi y mudiad i barhau i ddarparu y gwasanaeth amhrisiadwy y mae�n ei gynnig i fudiadau lleol. Bydd y grant blwyddyn yn talu am fws mini gyda mynediad i bobl anabl. | £25,654 |
| Clwb Ar �l Ysgol Ffordd Stacey | I ddarparu clwb gwaith cartref yn ystod y tymor fel elfen ychwanegol i�r gweithgareddau presennol. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i dalu cyflog aelod ychwanegol o staff ac i brynu llyfrau, meddalwedd cyfrifiadurol ac adnoddau eraill i hyrwyddo y pr | £15,228 |
| Clwb Ffermwyr Ifanc Llanelli a�r Cylch | I foderneiddio a gosod cyfleusterau toiled a chegin ym man cyfarfod y clwb ffermwyr ifanc. Defnyddir y grant blwyddyn ar gyfer gosod toiledau a gwaith atgyweirio. | £4,420 |
| Clwb Plant Gwaun Cae Gurwen | I gynnal a datblygu y clwb plant �ar �l ysgol�. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i dalu cyflogau dau aelod o staff rhan amser, hyfforddiant ac i dalu costau cynnal y prosiect. | £17,166 |
| Crossroads Porthcawl | I ddarparu cefnogaeth ysbeidiol i�r rhai sy�n gofalu am henoed eiddil a bregus i alluogi gofalwyr i fynd ymlaen �u haddysg. Defnyddir y grant, dros un flwyddyn, ar gyfer cyflogau staff rhan-amser ysbeidiol ac i gynhyrchu llenyddiaeth i hyrwyddo. | £7,000 |
| Cwch Gwenyn Bethesda | I ddarparu a sefydlu gofal plant o safon ar gyfer plant o oedran ysgol a chreu Canolfan Fenter Gymunedol. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i brynu defnyddiau ac offer, cyflogau staff, costau cynnal, deunyddiau hyrwyddo, hyfforddiant staff, treuliau t | £97,069 |
| Cymdeithas Ardal Eryri o Werin y Coed | I brynu bws mini 15 sedd newydd i gludo plant a phobl ifanc rhwng 6 ac 20 oed i ac o amrywiaeth o weithgareddau. Defnyddir y grant blwyddyn i brynu bws mini, i dalu costau hyfforddiant perthynol a chost yswiriant a threth ffordd. | £30,617 |
| Cymdeithas Chwarae Wrecsam | I ddatblygu canolfan adnoddau, storfa sgrap a gwasanaeth llogi. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i brynu offer swyddfa, offer chwarae, cyflogau, costau cynnal, hyfforddiant staff, treuliau a recriwtio | £48,918 |
| Cymdeithas Cristnogol Merched Ifanc | I ddatblygu rhaglen waith gydlynol yn Ne a Gorllewin Cymru ar gyfer merched ifanc rhwng 13 a 30 oed. Defnyddir y grant, sydd dros dair blynedd, i wneud gwaith atgyweirio, prynu offer swyddfa, cerbyd, cyflog un swydd lawn amser, costau cynnal, a deunyddiau | £153,983 |
| Cymdeithas Cymuned Ffoaduriaid Fietnamiaid De Cymru | I sicrhau bod y gymuned Fietnamaidd yn medru cael mynediad i�r prif wasanaethau a ddarperir a�r cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant/addysg a gwaith. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, ar gyfer prynu offer swyddfa, a talu cyflogau dau staff llawn amser. | £169,629 |
| Cymdeithas Datblygu Cydweithredol De Cymru Cyf. | I sefydlu cydweithrediadau perchnogaeth cyffredin i�r gweithwyr ar gyfer rhai rhwng 16 a 25 oed. Bydd y grant tair blynedd yn galluogi y Gymdeithas i gyflogi gweithiwr datblygu ieuenctid cydweithredol er mwyn cynorthwyo i sefydlu mentrau cydweithredol. | £93,022 |
| Cymdeithas Genedlaethol Gofal Maeth | I gynorthwyo mudiadau gofal maeth lleol i fod yn effeithiol, i roi grym i�r swyddogion a�u galluogi i negodi yn effeithiol gyda�r awdurdodau lleol y maent yn trefnu gofal maeth ar eu rhan. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, ar gyfer offer swyddfa, a do | £184,984 |
| Cymdeithas Gludiant Caerfyrddin a�r Cylch ar gyfer yr Anabl | I ddarparu gwasanaeth cludiant cymunedol ar gyfer pobl o Gaerfyrddin a�r cylch gwledig cyfagos sydd mewn oed ac/neu yn anabl ynghyd � grwpiau difreintiedig eraill. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, ar gyfer cerbyd penodol newydd a chostau cynnal. | £41,467 |
| Cymdeithas Gymuned Eglwyswrw | I atgyweirio y ganolfan gymunedol er mwyn ateb anghenion cymdeithasol, diwylliannol, addysgol a hamdden y pentref. Defnyddir y grant blwyddyn i atgyweirio canolfan gymuned y pentref. | £30,000 |
| Cymdeithas Ieuenctid a Phlant Llanelli | I ddarparu clybiau gwaith cartref a hwyl bore Sadwrn ar bedair safle ar gyfer rhai rhwng 9 a 12 oed. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i brynu cyfrifiaduron a meddalwedd, i dalu cyflogau un staff llawn amser a deg rhan amser ac i dalu costau cynnal y | £117,391 |
| Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent | I ddarparu cefnogaeth i fudiadau gwirfoddol sy�n bodoli eisoes ac i ddatblygu mudiadau gwirfoddol newydd mewn ardaloedd o gyni economaidd. Defnyddir y grant tair blynedd i dalu cyflogau pum swyddog datblygu cymunedol rhan amser, ac i hyfforddi staff. | £192,123 |
| Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys | I greu rhwydwaith gwybodaeth a chyfathrebu, gan ddefnyddio y dechnoleg newydd, ar gyfer staff craidd a phrosiect a mudiadau gwirfoddol eraill ym Mhowys. Defnyddir y grant blwyddyn i brynu offer cyfrifiadurol a hyfforddiant a chyngor perthynol. | £69,413 |
| Cymdeithas Plant Byddar Cyswllt | I ymestyn y gwasanaeth presennol trwy gynnig cymorth, gwybodaeth, gweithgareddau hamdden a gweithdai ar gyfer mudiadau sy�n cynrychioli plant � nam ar eu clyw ac i unigolion sy�n byw mewn ardaloedd gwledig. | £48,726 |
| Cymdeithas y Llaw sy�n Tywys (Guiding Hand) | I agor dwy ganolfan arall ac i ddarparu rhaglenni wedi eu hachredu ar gyfer pobl ifanc difreintiedig na chawsant fynediad i sefydliadau sefydledig. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i brynu offer swyddfa, i ariannu un swydd lawn amser, ac i gynhyrchu | £140,465 |
| Cymorth Cyffuriau Taf Elai | I ddarparu cymorth ar �l gofal i rai sy�n camddefnyddio cyffuriau gan ganfod eu hanghenion hyfforddiant ac addysg er mwyn cael mynediad i gyngor, addysg bellach a gweithgareddau hamdden a datblygu eraill. | £60,966 |
| Cymorth Dioddefwyr Dyfed | I recriwtio, hyfforddi a chynorthwyo gwirfoddolwyr i�w galluogi i ddarparu cymorth ar gyfer rhai sydd wedi dioddef trosedd yn y gymuned. | £33,382 |
| Cymorth i Ferched Ynys M�n | I gefnogi merched sydd mewn perygl mewn cymunedau pellennig gwledig a chynnig cyfleon newydd ar gyfer hyfforddiant. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i gyflogi un gweithiwr maes llawn amser gyda hyfforddiant perthynol a chostau gweithredol eraill. | £91,404 |
| Cymorth Menywod Aberconwy | I gynnig llety tros dro diogel, cymorth a gwybodaeth ar gyfer menywod a�u plant sydd am ddianc rhag drais yn y cartref. Bydd y grant tair blynedd yn galluogi y grwp i gyflogi gweithiwr maes wrth gefn llawn amser ac i dalu costau gweinyddol. | £96,694 |
| Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe | I ddarparu canolfan adnoddau un stop ar gyfer gweithgaredd gwirfoddol sy�n hawdd ei ddefnyddio gan unigolion, grwpiau cymunedol a mudiadau yn ardal Abertawe. Defnyddir y grant blwyddyn i brynu ac adnewyddu adeilad. | £250,000 |
| Cyngor Castell Nedd Port Talbot ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddol Cyfyngedig | I ddarparu neu gynorthwyo yn narpariaeth cyfleusterau sy�n gwarchod iechyd ac yn lliniaru tlodi a phoen. Defnyddir y grant tair blynedd i gael adeilad newydd, atgyweirio, offer swyddfa, cyflog un swydd lawn amser, costau cynnal a deunyddiau hyrwyddo. | £371,905 |
| Cyngor Cydraddoldeb Hiliol Bae Abertawe | I ddatblygu cysylltiadau gyda a chymorth i�r gymuned lleiafrif ethnig yn yr ardal. Defnyddir y grant, sydd dros dair mlynedd, i dalu cyflogau dau swyddog datblygu cymunedol llawn amser, i brynu offer swyddfa, i gynhyrchu gwybodaeth, ac ar gyfer hyfforddi. | £156,045 |
| Cyngor Sgowtiaid Ardal Islwyn | I ymestyn a gwella yr adnoddau ym Mharc y Sgowtiaid Ardal a leolir yn Nhrecelyn. Byddai y grant blwyddyn yn galluogi y mudiad i ymestyn eu cartref presennol ac i ddarparu adeilad ar ffurf ysgubor i�w ddefnyddio gydol y flwyddyn. | £111,182 |
| Cyngor y Fro ar gyfer Gwasanaethau Gwirfoddol | I gynyddu gallu, hyder, sgiliau a�r ymwybyddiaeth o fudiadau gwirfoddol a chymunedol ym Mro Morgannwg wledig ac i greu a rheoli, Cynllun Cyswllt Busnes. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i gyflogi tri gweithiwr llawn amser, ac i brynu offer swyddfa. | £197,270 |
| Cynllun Cynnal Dioddefwyr Gwent | I roi cymorth ymarferol a charedig i aelodau o�r cymunedau ethnig sydd wedi dioddef trais troseddol. Defnyddir y grant dros dair blynedd i dalu cyflog un gweithiwr prosiect llawn amser ynghyd � gwariant gweithredol cysylltiedig. | £19,998 |
| Cynllun Cynorthwyo Dioddefwyr Abertawe | I ddarparu cymorth a chyngor ynglyn � holl faes digwyddiadau troseddol. Bydd y gwasanaeth yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim. Defnyddir y grant blwyddyn i brynu ystafell swyddfa ynghyd � chostau adnewyddu ac offer swyddfa. | £74,521 |
| Cyswllt Ieuenctid Cymru | I ddatblygu gwobr gydnabyddedig Cyswllt Ieuenctid Cymru ar gyfer addysgwyr cyfoed ymhob rhan o Gymru. Defnyddir y grant dros dair blynedd er mwyn prynu offer swyddfa, i dalu cyflogau un staff llawn amser a thri rhan amser, ac i gynhyrchu gwybodaeth. | £113,420 |
| Eglwys ac Ysgoldy Annibynwyr y Tabernacl | I gynnig lle yn eu hysgoldy a chyfleusterau ar gyfer grwpiau, yn arbennig y rhai hynny sy�n cynorthwyo pobl anabl neu dan anfantais. Bydd y grant blwyddyn yn galluogi y grwp i weithredu rhan dau o�r gwaith atgyweirio i neuadd yr eglwys. | £43,098 |
| Fforwm Chwarae Merthyr Tydfil | I gyllido prosiect datblygu chwarae ym Mwrdeistref Merthyr Tydfil. Defnyddir y grant tair blynedd i dalu cyflogau un swydd lawn amser ac un swydd ran amser, i brynu adnoddau a deunyddiau ac i dalu costau gweithredol y prosiect. | £76,474 |
| Fforwm Wledig Cymru | I sefydlu swyddfa barhaol a chyflogi cyfarwyddwr ac ysgrifennydd i ddarparu gwasanaethau wrth gefn ar gyfer mudiadau gwirfoddol a chymunedol yn y Gymru wledig. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i brynu offer swyddfa, a cyflogau dau aelod o staff llawn | £85,235 |
| Geidiau Ardal Cwmtawe | I ddatblygu ac ymestyn y gweithgareddau presennol trwy brynu yr offer sy�n angenrheidiol ar gyfer gweithgareddau gwersylla ac offer sylfaenol ar gyfer y cyfarfodydd wythnosol. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i brynu offer gweithgaredd a gwersylla. | £6,618 |
| Geidiau�r Enfys 1af Cwmaman | I ddarparu gwell amgylchedd i gynorthwyo plant i ddatblygu. Defnyddir y grant blwyddyn i ddarparu storfa ddiogel fodern, dodrefn, offer chwaraeon/gemau, offer celf/crefft a chyfleusterau coginio. | £2,194 |
| Grwp Derbynfa Wrecsam | I ddarparu, rheoli a chynnal derbynfa er budd pobl ifanc sy�n dioddef o broblemau tai a gwaith. Defnyddir y grant blwyddyn i brynu offer a dodrefn, i dalu cyflog un aelod o staff llawn amser ac i dalu costau cynnal. | £85,844 |
| Grwp Hunan Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Ogwr | Nod y prosiect yw i ddatblygu grwpiau hunan gymorth rhieni a chymunedol i gynorthwyo gydag ymladd camddefnydd o gyffuriau. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i brynu offer swyddfa, i dalu cyflogau dwy swydd llawn amser ac un swydd rhan amser. | £192,117 |
| Grwp Chwarae a Babanod Cyn Ysgol Treffynnon | I ddiweddaru y cyfleusterau grwp chwarae a babanod i gyfateb i ganllawiau cyfredol o ran sicrwydd ansawdd o fewn yr amgylchedd chwarae. Defnyddir y grant blwyddyn i brynu offer chwarae a dysgu newydd. | £1,500 |
| Grwp Chwarae Creigiau | I ddarparu offer newydd ar gyfer y grwp chwarae er mwyn gwella sgiliau dysgu, magu hyder a chydweithio y plant. Defnyddir y grant blwyddyn ar gyfer prynu offer chwarae. | £1,258 |
| Grwp Chwarae Playdays | I wella datblygiad ac addysg plant cyn-ysgol trwy annog rhieni i ddeall a darparu ar gyfer anghenion eu plant. Defnyddir y grant blwyddyn i brynu offer ac i dalu peth o gostau rhedeg y cynllun. | £2,000 |
| Grwp Cymorth Cancr Sir Benfro | I gynnal y Grwp Cymorth Cancr a�r Ganolfan gan ateb gofynion cyfreithiol. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i dalu cyflog un cydlynydd rhan amser ac i brynu offer swyddfa. | £26,950 |
| Grwp Sgowtiaid 1af Brychdyn | I ddarparu llety addas a digonol ar gyfer datblygiad pobl ifanc. Defnyddir y grant blwyddyn i adeiladu adeilad newydd gyda chyfleusterau ar gyfer pobl anabl. | £79,979 |
| Gwasanaeth Cymunedol Gwirfoddol (Cymru) Cyfyngedig | I ddarparu cyngor, cymorth ac arweiniad ar gyfer darpar wirfoddolwyr. Bydd y grant, dros dair blynedd, yn talu am offer swyddfa, cyflogau un staff llawn amser ac un rhan amser, costau cynnal, defnyddiau hyrwyddo, hyfforddiant, costau teithio a recriwtio. | £65,614 |
| Gwasanaeth Gwirfoddolwyr ar y M�r | I ddarparu offer cyfrifiadurol ar gyfer pob uned i gynnig cymorth o ran hyfforddiant a gweinyddu ac i ddarparu adnodd hyfforddi defnyddiol ar gyfer morwyr. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i brynu cwch wedi ei baratoi�n drwyadl ac offer swyddfa. | £93,101 |
| Gwasanaethau Gwella Golwg | I ddarparu adnodd ar gyfer pobl � nam ar eu golwg i�w galluogi i ail-ddysgu sgiliau mynegiant yn dilyn colli eu golwg gan gynnwys braille, lleuad, a sgiliau teipio a chyfrifiadur. Defnyddir y grant, dros ddwy flynedd, i brynu offer swyddfa ac arbenigol. | £70,000 |
| Gweithdy Gwragedd De Morgannwg Cyf. | I ddarparu hyfforddiant ar gyfer gwragedd dros eu 25 oed, yn bennaf o leiafrifoedd ethnig a fu�n ddifreintiedig o ran mynediad i waith a hyfforddiant. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i dalu cyflogau tri staff llawn amser a phedwar rhan amser. | £124,296 |
| Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tydfil | I gefnogi mudiadau gwirfoddol yn null blaenorol Cymdeithas Canol Morgannwg ar gyfer Mudiadau Gwirfoddol. Defnyddir y grant, sydd am dair blynedd, i dalu am offer swyddfa, cyflogau un gweithiwr llawn amser ac un rhan amser, costau cynnal, ac hyfforddiant. | £140,228 |
| Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol | I ddarparu y Prosiect Gweithredu ar gyfer yr Amgylchedd a�r Cyfryngau (E-MAP) - partneriaeth newydd rhwng grwpiau amgylcheddol cymunedol, y cyfryngau a rhaglenni yr Amgylchedd a Gwirfoddoli y GGC yng Nghymru. Defnyddir y grant blwyddyn i brynu offer swydd | £176,589 |
| Gwobr Dug Caeredin | I ddatblygu polisi dwyieithog, i gynnal swyddog datblygu, i drefnu, paratoi a chynnal digwyddiadau addas ar gyfer hyfforddi oedolion. Byddai y grant tair blynedd yn galluogi y mudiad i gyflogi swyddog hyfforddi a datblygu yr iaith Gymraeg. | £63,540 |
| Home Start UK | I gyfieithu i Gymraeg, ac atgynhyrchu, yr holl ddogfennau o bwys a ddefnyddir gan y mudiad Home Start. Defnyddir y grant blwyddyn i dalu y costau cyfieithu, costau argraffu a threuliau cysylltiol. | £29,836 |
| Instant Muscle Limited | I ddarparu cyngor a chanllaw ar gyfer pobl sy�n cynllunio ac yn rhedeg busnesau bychain. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, ar gyfer offer swyddfa, cyflogau tri aelod o staff llawn amser, costau cynnal, hyfforddiant, rhent, treuliau teithio a recriwtio | £231,465 |
| Is-Grwp Addysg & Hyfforddiant Fforwm Dat. Cym. Trelai | I ddarparu tiwtoriaid galluog i redeg cyrsiau cydnabyddedig er mwyn darparu cyfleoedd dysgu ar gyfer trigolion Trelai gyda chymorth cyfleusterau meithrin. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, er mwyn cynhyrchu a darparu gwybodaeth ynglyn �r prosiect. | £26,890 |
| Llinell Blant (Childline) | I ddatblygu y llinell blant mewn partneriaeth ag ysgolion Cymru. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i dalu cyflogau un swydd lawn amser ac un ran amser, i gynhyrchu deunyddiau hyrwyddo, ar gyfer hyfforddiant ac i dalu costau rhedeg y prosiect. | £103,910 |
| Mencap yng Nghymru | I ddarparu gwasanaeth ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu canolig a difrifol i�w galluogi i gymryd rhan mewn ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli o fewn eu cymunedau lleol. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i dalu cyflogau tri aelod o staff llawn amser | £118,363 |
| MIND Caerdydd Cyfyngedig | I alluogi pobl sydd � phroblemau iechyd meddwl i ymgymryd � gwaith gwirfoddol ar leoliad. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i brynu offer swyddfa, i gyllido cyflog un swydd llawn amser, i gyfarfod cost cynhyrchu gwybodaeth a chostau hyfforddiant. | £89,574 |
| Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru | I alluogi pobl ifanc yn y Gymru wledig i gymryd cyfrifoldeb am eu haddysg eu hunain a�u datblygiad personol yn y dyfodol. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, ar gyfer cyfrifiaduron a meddalwedd, cyflog, costau cynnal, deunyddiau hyrwyddo, ac hyfforddian | £124,722 |
| Mudiad Ysgolion Meithrin | I wella darpariaeth ac ansawdd addysg mewn ysgolion meithrin, a chyflogi swyddogion datblygu arbenigol ar gyfer cynllunio, creu a chynhyrchu deunyddiau addysgol a�u dosbarthu ar hyd a lled Cymru. Defnyddir y grant, dros ddwy flynedd, ac i brynu offer swyd | £177,347 |
| Mudiad Ysgolion Meithrin Sir Gaerfyrddin | I ddatblygu gwasanaeth ar gyfer plant � phroblemau ymddygiad. Defnyddir y grant, sydd am dair mlynedd, ar gyfer prynu offer swyddfa, cyflogau 16 o swyddi rhan amser a hyfforddiant staff. | £87,027 |
| Mediation Tawe Afan Nedd | I ddarparu cyfleon dysgu ar gyfer gwirfoddolwyr i�w galluogi i ennill sgiliau mewn atal gwrthdaro o fewn awyrgylch ysgol ac yn y gymuned. Defnyddir y grant tair blynedd ar gyfer talu cyflog un aelod o staff llawn amser ac un rhan amser ynghyd � hyfforddia | £85,669 |
| Neuadd Eglwys Sant Teilo Brechfa | I adeiladu storfa yn y neuadd bresennol sydd yn cael ei defnyddio ar gyfer datblygu gweithgareddau grwpiau cymunedol lleol. Defnyddir y grant blwyddyn i adeiladu estyniad. | £10,000 |
| Partneriaeth Fenter Penywaun | I roi mynediad i gyfleon hyfforddi ffurfiol ac anffurfiol er mwyn cynyddu gallu gwaith ac ennill y gymuned. Defnyddir y grant blwyddyn i dalu cyflogau saith cynorthwy-ydd gofal plant rhan amser, i brynu offer TG, hyfforddiant llesol ac i dalu costau rhede | £70,040 |
| Pentref Sgowtiaid Melin Misgin | Mae Pentref Sgowtiaid Melin Misgin yn hyrwyddo datblygiad mudiadau sy�n cynorthwyo pobl ifanc i gyrraedd eu llawn addewid. Defnyddir y grant blwyddyn i sefydlu canolfan breswyl fechan a ddefnyddir gydol y flwyddyn ar gyfer gweithgareddau�r Sgowtiaid a chy | £64,150 |
| Prosiect Ieuenctid Llanrwst | I ddarparu canolfan galw i mewn ar gyfer ieuenctid sy�n cael ei rhedeg gan ieuenctid. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i brynu hen warws, atgyweirio yr adeilad, cyflogau cysylltiedig a threuliau gweithredol. | £100,000 |
| Prosiect y Priordy Cyfyngedig | I greu lle byw ar wahan ar gyfer dau berson gydag anhawsterau dysgu, nad oes arnynt ond angen y gofal staff lleiaf. Bydd y prosiect yn bont rhwng gofal preswyl a bywyd annibynnol yn eu tai eu hunain. Defnyddir y grant blwyddyn i atgyweirio a dodrefnu y ff | £10,955 |
| Radio Morfa Glannau FM Cyfyngedig | I ddarparu gorsaf radio gymunedol a chanolfan hyfforddiant yn y cyfryngau i wasanaethu y Rhyl a�r cylch. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, ar gyfer atgyweirio, offer swyddfa, offer darlledu, cyflogau un aelod o staff llawn amser a staff hunan gyfloged | £146,777 |
| Raleigh Rhyngwladol | I roi cyfle i bobl ifanc o gefndir difreintiedig i gymryd rhan mewn cynlluniau hyfforddi trwy�r DG o dan y Rhaglen Ddatblygu Ieuenctid. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i dalu costau recriwtio, hyfforddi a theithio. | £70,131 |
| SCOVO ar gyfer Pobl ag Anabledd Dysgu yng Nghymru | I ddarparu cymorth i fudiadau gwirfoddol presennol a newydd sy�n gweithio ym maes anabledd dysgu yng Nghymru. Defnyddir y grant, dros ddwy flynedd, i brynu offer swyddfa, ffioedd ar gyfer cytundebau tymor byr, i gynhyrchu gwybodaeth, hyfforddiant ac i dal | £136,765 |
| Sefydliad y Deillion Caerdydd Corfforedig | I ddarparu sgiliau a hyfforddiant cyfrifiadurol sylfaenol ar gyfer pobl byr eu golwg gan ddefnyddio offer arbenigol ac wedi ei addasu yn ogystal ag offer safonol. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i brynu offer swyddfa a chyfrifiadurol, ac i dalu cyfl | £95,865 |
| Sparc Blaenymaes | I gyflogi gweithiwr datblygu i weithio gyda nifer fawr o bobl ifanc ac i gynnal ymchwil i ffurfiau cyrsiau a gweithgareddau a fyddai yn eu denu i ddefnyddio y cyfleusterau. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i brynu dodrefn i�r swyddfa, ac i dalu cyflo | £63,445 |
| U3A Caerfyrddin | I ymestyn ystod y cyfleon ar gyfer aelodau Prifysgol y Drydedd Oes U3A Caerfyrddin i ddefnyddio offer TG. Defnyddir y grant blwyddyn i brynu system gyfrifiadurol a chostau cynnal perthynol. | £3,451 |
| Y Clwb Diwylliannol ac Addysgol Affro-Ganolog | I wella ac ymestyn ymhellach yr ystod a�r math o wasanaethau a ddarperir, bydd y grant yr ymgeisiwyd amdano yn cynorthwyo y clwb i sefydlu modiwl TG cynhwysfawr o fewn rhaglen gyffredinol yr ysgol. | £42,756 |
| Y Gadlas | I wella ansawdd, diwyg a chynhyrchiad papur bro �Y Gadlas� ac i gynyddu ei gyfraniad i fywyd a diwylliant yr ardal. Defnyddir y grant, sydd dros dair blynedd, i brynu offer swyddfa, camerau, i dalu cyflog un swydd lawn amser ac i dalu costau gweithredol. | £40,050 |
| Y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol | I sicrhau darpariaeth o wasanaethau addas ar gyfer pobl sy�n dioddef o awtism a�r syndrom asperger, i hyrwyddo a chynorthwyo eu datblygiad, mewn rhannau o�r hen sir Gwent. Defnyddir y grant, dros dair blynedd, i brynu offer swyddfa, cerbyd, teclynnau ac o | £360,741 |
| Ymddiriedlaeth Busnes Ieuenctid y Tywysog | Prosiect peilot i gynyddu gwaith a thasgau gweinyddol anhepgor a wneir gan wirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru. Defnyddir y grant blwyddyn i dalu cyflogau dwy swydd lawn amser ynghyd � chostau cynnal y prosiect yn ystod y cyfnod hwn. | £50,000 |
| Ymddiriedolaeth Dysphasia Cymru | I ddarparu agwedd fentrus tuag at adferiad ar �l niwed i�r ymennydd trwy ddefnyddio rhaglenni ail-ddysgu penodol ar gyfer y myfyriwr i gynorthwyo oedolion dysphasig i ail-ddysgu sgiliau sylfaenol. | £126,573 |
| Ysbryd Weston | Nod y prosiect yw datblygu ymhellach waith Ysbryd Weston (Weston Spirit) sy�n fudiad ar gyfer pobl ifanc rhwng yr oedran 16-18 sy�n byw yn ardal De Morgannwg. Bydd y grant tair blynedd yn cynorthwyo y mudiad i gyflogi dau weithiwr llawn amser. | £145,624 |
| Ysgol Tseiniaidd Gogledd Cymru | I wella ansawdd addysg mewn llefaru, ysgrifennu a darllen. Defnyddir y grant blwyddyn i brynu cymhorthion dysgu gan gynnwys cyfrifiadur a meddalwedd addysgol, printer, tabled graffeg a chymhorthion amrywiol eraill ac hefyd ar gyfer hyfforddi athrawon. | £4,932 |