Sut i ddefnyddio Safle gwe Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol(English)

Cynlluniwyd safle gwe Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol fel bod pobl â nam ar eu clyw neu ar eu golwg yn cael defnydd mor llawn â phosib ohono. Rydym wedi ceisio cydymffurfio â’r tair blaenoriaeth ar gyfer mynediad i gynnwys y we a nodir gan Gonsortiwm y We Fyd Eang.

Ar dudalen gyntaf y safle www.nlcb.org.uk, cewch ddewis rhwng y safle testun yn unig neu'r safle cyflawn. Mae'r ddau safle yn cynnwys yr un wybodaeth wedi ei gyflwyno mewn dulliau gwahanol.

The power of the Web is in its universality. Access by everyone regardless of disability is an essential aspect - Tim Berners-Lee, inventor of the World Wide Web

Mae'r safle testun yn unig yn fwyaf addas ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg neu'n defnyddio meddalwedd fel porwyr testun-i-leferydd a darllenwyr Braille neu fersiynau cynnar o borwyr Netscape ac Internet Explorer. Mae'n cynnwys yr un adnoddau â'r safle cyflawn fel teclyn dwyieithog Cymraeg-Saesneg, cronfa ddata/datganiadau i'r wasg i'w archwilio a'r gwasanaeth ddanfon cwestiwn i'r Bwrdd Elusennau.

Mae'r safle cyflawn yn well ar gyfer pobl heb feddalwedd arbennig ac sy'n defnyddio porwyr Netscape 2.0/Internet Explorer 3.0 neu uwch. Mae'r safle hyn hefyd yn cynnwys amryw o ddarluniau y cewch ddewis peidio â'i defnyddio wrth newid y gosodiadau ar eich porwr.

Cewch chwyddo'r testun ar y safle hwn wrth newid y gosodiadau ar eich porwr.

Wrth agor unrhyw un o'r safleoedd, fe welwch amryw o ddewislenni ar ochr chwith ac ar draws rhan uchaf y dudalen. Mae'r rhain yn caniatáu chi symud o un lle i'r llall o fewn y safle. Cewch ddefnyddio y teclyn dwyieithog Cymraeg-Saesneg ar unrhyw adeg wrth ddewis "English" neu "Cymraeg" ar ochr chwith y dudalen. Ni fydd y rhannau o safle gwe y Bwrdd Elusennau sy'n ymwneud â rhanbarthau y tu allan i Gymru, ar gael yn y Gymraeg

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, awgrymiadau neu drafferthion â'r safle, cewch gysylltu â gweinyddwr y we drwy'r ebost ar webmaster@nlcb.org.uk neu ar y ffôn wrth alw 0171 747 5357 neu 0171 747 5226.