|
[Gwybodaeth gyffredinol] [Y wasg] [Cyswllt] [Cysylltiadau] [Help] [Yn ôl] |
Gweld sêr a dawnsio gyda grantiau’r Bwrdd ElusennauBydd aelodau ‘Youth Watch’ Pen y Dre, Rhymni, yn dawnsio i’r caneuon diweddara yn sgil grant o £5,000 a ddyfarnwyd ar gyfer offer disgo; tra bydd grant arall o £5,000 yn cael ei ddefnyddio i brynu telesgôp a fydd yn galluogi Cymdeithas Astronomaidd Abertawe i weld rhagor o sêr. Bydd cerddoriaeth hefyd yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant y gymuned Somalïaidd yng Nghymru sy’n cael eu trefnu gan Gymdeithas Addysg, Diwylliant a Chelfyddyd Affro-Geltaidd, (Caerdydd) a dderbyniodd grant o £4,920. Roedd cyfanswm y grantiau, a ddyfarnodd Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol i 93 o grwpiau heddiw, yn £290,799. Eglurodd Tom Jones, Cadeirydd y Bwrdd Elusennau yng Nghymru: "Mae’r grantiau hyn heddiw’n adlewyrchu cyfraniad y Bwrdd Elusennau i w^yl y Mileniwm yng Nghymru. Bydd rhai o’r prosiectau yn rhoi ansawdd ac amrywiaeth i fywyd cymunedol, sy’n un ffordd o ddathlu’r Mileniwm. Fodd bynnag, mae’r Mileniwm hefyd yn gatalydd cryf i ni i adnewyddu ein hymroddiad i helpu’r rhai sydd dan anfantais, felly mae’n galonogol i weld cynifer o brosiectau a fydd yn ennyn gobaith newydd i’r rhai dan anfantais wrth i ni gamu i mewn i’r Mileniwm newydd." Y grwpiau llwyddiannus sy’n gwasanaethu Cymru gyfan yw Plant sy’n Dioddef Effaith Bwlio (CURB), sy’n derbyn grant o £3,721 i wella cyfleusterau ei swyddfa; a Chymdeithas Cyneclampsaidd Tocsemia sy’n derbyn £3,589 tuag at offer i ddarparu gwybodaeth am iechyd. Mae defnydd o gyfrifiaduron yn elfen o nifer o’r grantiau eraill a ddyfarnwyd megis £2,040 i Fforwm Anabledd Sir Ddinbych, £1,130 i Gymdeithas Hunan-gymorth Aberhonddu ar gyfer y Di-waith, a £4,240 i Gyfrifiaduron yn y Gymuned yng Nghaerdydd. Dywedodd Roy Norris, Cyfarwyddwr y Bwrdd Elusennau yng Nghymru: "Mae’r Grantiau bychain sy’n amrywio o £500 i £5,000 yn boblogaidd iawn yng Nghymru oherwydd y ffurflen gais syml a’r broses gyflym o ddosrannu arian. Ein nod yw rhoi cyfle cyfartal i ymgeiswyr trwy ddarparu llinell ymholiadau, cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr, cynnal seminarau a chynnig ymateb i ymgeiswyr aflwyddiannus. Mae cyngor annibynnol gwerthfawr hefyd ar gael, yn rhad ac am ddim, i grwpiau cymunedol neu wirfoddol, trwy eu Gwasanaeth Gwirfoddol Sirol lleol." Dylai grwpiau sydd eisiau ffurflenni cais ar gyfer grantiau’r Bwrdd Elusennau neu ragor o wybodaeth ffonio 0345 273273. Nodiadau i Olygyddion
Nodyn i Ddylunwyr Logo Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol yw y logo cylchol a welir ar y datganiad yma i’r wasg. (Marc masnachu y Loteri Genedlaethol yw’r logo ‘croesi bysedd’ ac nid yw felly at ddefnydd y Bwrdd Elusennau.) |